x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Y Pasg

Llun o groes ar gefndir porffor

Eleni, yr 20fed o Ebrill yw Sul y Pasg. Y Pasg yw’r ŵyl bwysicaf yn y calendr Cristnogol. Mae’n coffáu Iesu yn atgyfodi, tri diwrnod ar ôl iddo gael ei groeshoelio.

Mae’r wythnos cyn Sul y Pasg yn cael ei alw’n Wythnos Sanctaidd. Sul y Blodau (dydd Sul cyn Sul y Pasg) sy’n dechrau’r wythnos ac mae pobl yn dathlu dydd Iau Cablyd (diwrnod y swper olaf) a dydd Gwener y Groglith (y diwrnod cafodd Iesu ei groeshoelio) yn ystod yr wythnos. Mae’r Pasg yn adeg brysur iawn mewn eglwysi. Cynhelir gwasanaethau arbennig ac mae rhai cymunedau yn cynnal gorymdeithiau Pasg.

Llun o dri wy pasg ar gefndir porffor

Traddodiadau Pasg

O bosib y symbol enwocaf o’r Pasg yw’r wy Pasg. Heddiw, mae wyau yn cael eu creu o siocled, ond yn draddodiadol, roedd pobl yn berwi wyau ac yn eu haddurno gyda llaw. Mae wyau yn symboleiddio bywyd newydd, ac i Gristnogion, mae wyau Pasg yn cynrychioli atgyfodiad Iesu.


Mae’r Pasg yn nodi diwedd y Grawys, 40 diwrnod sy’n arwain at y Pasg. Mae nifer o bobl yn stopio gwneud neu fwyta pethau yn ystod y Grawys, felly os wyt ti wedi peidio bwyta siocled am 40 diwrnod, cei di ei fwynhau eto ar Sul y Pasg!


Traddodiad enwog arall yw’r Gwningen Pasg. Daeth traddodiad y gwningen yn wreiddiol o’r Almaen, ond erbyn hyn mae’r traddodiad wedi cyrraedd gwledydd eraill ac mae nifer o deuluoedd yn cynnal helfa am wyau Pasg a siocled.

Bwyd traddodiadol

Mae bwyd yn rhan fawr o ddathliadau’r Pasg ac mae nifer o deuluoedd yn dod at ei gilydd ar gyfer pryd arbennig, gyda chig oen weithiau, oherwydd bod hyn yn symbol o offrwm i Gristnogion. Mae pobl yn bwyta byn croes poeth, yn enwedig ar ddydd Gwener y Groglith. Mewn rhai gwledydd, mae pobl yn gwneud cacennau Pasg arbennig. Ym Mhrydain, mae cacen Simnel yn bwdin Pasg poblogaidd, cacen ffrwythau wedi’i addurno gyda pheli marsipán, sy’n cynrychioli disgyblion Iesu.

Y Pasg o amgylch y byd

Mae gan wledydd gwahanol draddodiadau gwahanol yn ystod y Pasg:

  • Sbaen: Mae pobl yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau crefyddol mawreddog, yn enwedig mewn dinasoedd fel Seville. Mae pobl mewn gwisgoedd traddodiadol yn cario cerfddelwau o Iesu a Mair drwy’r strydoedd ac yn canu a gweddïo
  • Yr Eidal: Yn Rhufain, mae’r Pab yn arwain gwasanaeth Pasg arbennig, gyda bendith o falconi’r Fatican ar Sul y Pasg. Mae miloedd o bobl yn ymgynnull ar sgwâr Sant Pedr
  • Gwlad Groeg: Y Pasg yw’r ŵyl grefyddol fwyaf arwyddocaol yng ngwlad Groeg. Mae pobl yn mynychu gwasanaethau hanner nos, ac yn cyfarch ei gilydd drwy ddweud “Christos Anesti” (Mae Crist wedi atgyfodi). Mae’r wledd yn cynnwys cig oen a bara melys o’r enw tsoureki
  • Yr Unol Daleithiau a Phrydain: Mae helfa am wyau Pasg, gorymdeithiau ac wyau siocled yn draddodiadau poblogaidd