x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Y Pasg Iddewig (Pesach)

Llun yn dangos bwydydd gwahanol fel ŵy wedi ferwi, gwin coch a matzah

Y Pasg Iddewig, Passover neu Pesach mewn Hebraeg yw un o wyliau pwysicaf Iddewiaeth.

Beth yw Pesach?

Mae Pesach yn wyl wyth diwrnod sydd fel arfer yn digwydd ym mis Mawrth neu Ebrill. Eleni mae’n cael ei ddathlu o’r 12-20 o Ebrill. Mae Pesach yn cofio stori Exodus. Yn ystod Pesach, mae Iddewon yn cofio sut wnaeth yr Iddewon ffoi o gaethwasiaeth yn yr Aifft.

Mae’r stori yn pwysleisio pwysigrwydd dewrder a ffydd yn ystod adegau anodd. I lawer, mae Pesach yn gyfle i gysylltu gyda’u treftadaeth a rhannu’r stori gyda’r genhedlaeth iau.

Ar y noson cyn i Pesach ddechrau, mae Iddewon yn cael gwasanaeth arbennig o’r enw Seder. Mae’n digwydd dros bryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau adref fel arfer. Mae pobl yn dod at ei gilydd ac yn bwyta bwydydd sy’n symboleiddio gwahanol rannau o’r stori, mae nifer yn defnyddio plât Seder arbennig hefyd.

Llun yn dangos bwydydd gwahanol fel ŵy wedi ferwi, gwin coch a matzah

Dyma rai elfennau pwysig o’r pryd:

  • Matzah – Bara fflat heb furum. Ystyr hyn yw cofio’r Iddewon yn gadael yr Aifft ar frys, a doedd ganddynt ddim amser i aros i’r bara godi.
  • Maror – Perlysiau chwerw, sy’n cynrychioli chwerwedd caethwasiaeth.
  • Charoset – Cymysgedd o afalau, cnau a mêl sy’n cynrychioli’r morter yn yr Aifft.
  • Yr Afikomen – Mae darn o’r matzah yn cael ei roi mewn hances a’i guddio, fel arfer bydd un o’r plant yn chwilio amdano, fel helfa drysor

Y deg pla yn yr Aifft

Rhan fawr o stori’r Pesach yw’r deg pla yn yr Aifft. Mae pob pla yn cynrychioli cam tuag at ryddid.

Mae’r deg pla yn cynnwys yr Afon Nîl yn troi i waed, pryfaid a llyffantod yn gorchuddio’r tir, anifeiliaid yn marw, clefydau ar y croen, tywyllwch am dri diwrnod a’r plant cyntaf anedig yn cael ei ladd.

Roedd Duw wedi dweud wrth Moses i ddweud wrth yr Iddewon i roi gwaed oen ar ei drysau. Drwy wneud hyn, bydd yr angel yn gwybod mai Iddewon oedd yn byw yn y tŷ. Felly, bydd eu plentyn cyntaf anedig yn ddiogel.

Sut mae pobl yn dathlu Pesach heddiw

Er mai Seder yw traddodiad enwocaf Pesach, mae traddodiadau eraill yn gwneud yr ŵyl yma’n unigryw:

  • Yn ystod Pesach mae pobl yn osgoi unrhyw fwyd o wenith, barlys, ceirch neu sbelt sydd wedi dod i gysylltiad gyda dŵr ac sydd wedi codi. Chometz yw’r enw ar rain.
  • Cyn i’r ŵyl gychwyn, mae’n draddodiad i olchi’r gegin ac weithiau’r tŷ i gyd er mwyn cael gwared â’r chometz.
  • Mae rhai pobl yn ‘gwerthu’ ei eitemau ‘chometz’ i berson arall yn ystod Pesach, fel cymydog neu ffrind sydd ddim yn Iddewig.