x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ramadan 101: Popeth Rwyt Ti Angen Ei Wybod

Teulu yn bwyta pryd Ifatr gyda'i gilydd

Mae Ramadan yn amser arbennig i Fwslimiaid o amgylch y byd. Mae’n fis o ymprydio, gweddïo, adlewyrchu ac mae’n rhan bwysig o ffydd Islamaidd.

Os nad wyt ti’n Fwslim, neu hyd yn oed os wyt ti ond ti eisiau cael mwy o wybodaeth, bydd y blog yma yn rhoi trosolwg o ystyr Ramadan.

Beth yw Ramadan?

Ramadan yw’r nawfed mis yn y calendr Islamaidd. Mae Mwslimiaid yn ystyried Ramadan yn fis sanctaidd, ac maent yn credu mai dyma’r amser cafodd y Quran ei ddatgelu i’w proffwyd, Muhammad.

Mae Ramadan yn gyfnod i Fwslimiaid ddyfnhau eu ffydd, cysylltu gyda Duw, a dangos trugaredd at bobl mewn angen. Maent yn gwneud hyn drwy ymprydio, sef peidio bwyta nac yfed o pan mae’r haul yn gwawrio yn y bore hyd at fachlud yr haul yn y nos. Mae hyn yn fwy na methu prydau, mae’n dangos bod pobl yn gallu atal rhag temtasiwn, ymarfer hunan ddisgyblaeth a chydymdeimlo gyda phobl sydd yn llwgu.

Tu hwnt i ymprydio, mae pobl yn gweddïo mwy yn ystod Ramadan, yn darllen y Quran ac yn rhoi i elusennau. Mae nifer o Fwslimiaid yn mynychu gweddi arbennig yn y Mosg o’r enw Taraweeh ac mae’n amser i deuluoedd a chymunedau ddod at ei gilydd. Mae nifer o deuluoedd yn dod at i gilydd ar ôl i’r haul fachlud i fwyta pryd o’r enw Iftar.

Teulu yn gweddio gyda'i gilydd cyn bwyta eu pryd Iftar

Pwy sy’n dathlu Ramadan?

Mae Mwslimiaid ar draws y byd yn dathlu Ramadan. Er bod nifer yn ymprydio, nid yw pawb yn gorfod gwneud hyn. Nid oes rhaid i rai pobl fel plant, merched sy’n feichiog neu’n bron fwydo, yr henoed, a phobl sy’n sâl, ymprydio.

Mae’n bwysig cofio bod profiad pawb o Ramadan yn un personol, a beth sydd fwyaf pwysig yw’r bwriad tu ôl i hyn.

Sut galli di gefnogi rhywun yn ystod Ramadan

Os oes gen ti ffrindiau, cyd-ddisgyblion neu gydweithwyr sy’n dathlu Ramadan, mae gwneud pethau syml yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw.

Mae peidio bwyta nac yfed o’u blaenau os ydynt yn ymprydio yn rhywbeth bach ond ystyriol gallet ti wneud.

Deall bod ymprydio, yn enwedig yn ystod tywydd cynhesach yn gallu bod yn flinedig. Bydd yn amyneddgar os oes ganddynt lai o egni neu angen mwy o seibiant.

Mae ymprydio yn gallu bod yn heriol, ac mae’n debygol y byddant yn flinedig. Bydda’n amyneddgar gyda nhw os oes ganddynt lai o egni na sydd ganddynt fel arfer.

Bydda’n feddylgar a meddylia am wahodd nhw i ymuno mewn gweithgareddau ar ôl iddynt fwyta, yn hytrach na cyn iddynt fwyta.

Mae rhannu pryd Iftar gyda nhw yn ffordd wych o ddangos cefnogaeth.

Paid â bod ofn siarad gyda phobl ti’n nabod am eu profiadau o Ramadan. Mae’n dangos fod gen ti ddiddordeb a dy fod yn parchu eu ffydd. Bydda’n sensitif a phaid â gwthio rhywun i siarad amdano os nad ydynt yn fodlon.

Dau berson yn bwyta gyda'i gilydd yn ystod Ramadan

Stryglo gyda Ramadan? Y gefnogaeth sydd ar gael

Mae Ramadan yn gallu bod yn heriol. Os wyt ti’n stryglo, cofia dwyt ti ddim ar ben dy hun.

Siarada gyda phobl ti’n ymddiried ynddynt, fel dy deulu a ffrindiau am sut ti’n teimlo. Gallent gynnig cefnogaeth ac anogaeth.

Gall dy fosg lleol neu arweinydd crefyddol gynnig arweiniad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti hefyd.

Mae cymunedau ar-lein yn gallu helpu. Chwilia ar fforymau a grwpiau cefnogaeth ble gallet ti gysylltu gyda Mwslimiaid eraill sydd yn cymryd rhan yn Ramadan. Gallwch chi rannu eich profiadau a chysylltu gydag eraill.

Os wyt ti’n stryglo gyda dy iechyd meddwl, mae’n bwysig estyn allan am help proffesiynol. Mae nifer o sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynnig cymorth. Galli di gychwyn drwy gysylltu gyda dy feddyg teulu neu linell gymorth Meic am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.