x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ymgyrch Caru dy Fislif

Llun o bapur coch wedi ei addurno gyda'r geiriau 'Periods Matter'

Mae llinell gymorth Meic wedi ymuno ag ymgyrch ‘Love Your Period’ i godi ymwybyddiaeth am y mislif a lleihau’r stigma am iechyd menywod.

Dyma flog gwadd gan Molly Fenton, 23, ymgyrchydd ifanc a sylfaenydd ymgyrch Love Your Period.

Dod yn ymgyrchydd ifanc

Yn 16 mlwydd oed, fe gychwynnais ymgyrch Love Your Period i ddefnyddio fy llais yn y sgyrsiau am urddas mislif yma yng Nghymru. Roedd y sgyrsiau yma yn cynnwys trafodaethau am dlodi, cywilydd ac addysg.

Tyfais i fyny gyda mislif poenus a thrwm. Canfuwyd bod hyn wedi’i achosi gan diwmor ar fy ymennydd. Fe adawais yr ysgol ar ôl dysgu am y tiwmor, felly tra mod i’n aros i ddychwelyd i ail eistedd fy mlwyddyn TGAU, fe wnes i gychwyn yr ymgyrch yma ar-lein. Fe dyfodd yn gyflym a chefais wahoddiad i gyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru, Cymru sy’n Falch o’r Mislif.

Roedd yr ysgol yn anodd ar ôl cymryd amser allan. Fodd bynnag, roeddwn yn mwynhau ymgyrchu, creu postiadau cyfryngau cymdeithasol a siarad yn gyhoeddus. Fe wnes i greu fy swydd fy hun allan o hynny, er gwaethaf methu’r rhan fwyaf o fy arholiadau a chael fy ngwrthod o’r brifysgol. Dwi’n caru dangos i bobl nad oes rhaid i ti ddilyn llwybr confensiynol i lwyddo. Pan mae rhywbeth drwg yn digwydd, nid yw’n golygu na fydd dim byd da yn digwydd i ti eto.

Pam ‘Love Your Period’ (LYP)?

Dwi wedi sylweddoli bod gofyn i bobl ‘garu’ eu mislif yn afrealistig. Ond, ar y pryd, roeddwn i a fy ffrindiau yn gweld gymaint o atgasedd a ffieiddio am y mislif pan roeddem yn cychwyn y sgyrsiau yma. Y syniad tu ôl i’r enw oedd mynd i gyfeiriad arall yn llwyr.

Amcanion LYP yw:

  • Rhoi diwedd ar y stigma am y mislif
  • Sicrhau fod gan bawb sydd angen nwyddau mislif fynediad atynt
  • Creu gofodau ble mae pobl yn teimlo’n ddiogel i drafod y mislif
  • Parhau i gynnwys llais pobl ifanc mewn cynlluniau sy’n cael effaith arnom ni

A dyma’r amcan mawr: sicrhau fod neb sy’n cael mislif yn dioddef gwaeth ansawdd bywyd yn ystod eu mislif, i gymharu â phan dydyn nhw ddim ar ei mislif.

Logo ymgyrch Love Your Period

Ble alla i gael nwyddau mislif am ddim?

Galli di gael nwyddau mislif am ddim:

  • Yn yr ysgol
  • Hwb lleol (canolfan cymuned neu lyfrgell)
  • Canolfannau hamdden
  • Canolfannau chwaraeon
  • Canolfannau ieuenctid
  • Nifer o glinigau iechyd rhywiol

Mae’r rhestr yma’n tyfu wrth i Lywodraeth Cymru gydnabod yr angen am nwyddau am ddim!

Molly Fenton ac ymgyrchydd ifanc arall yn tynnu llun gyda Mark Drakeford, cyn Brif Weinidog Cymru

Neges i ysgogwyr newid ifanc

Yn sicr nid ydw i’n beth mae pobl yn stereoteipio ymgyrchydd llwyddiannus i fod. Ar bapur, doeddwn i ddim yn edrych fel y myfyriwr gorau na’r person mwyaf llwyddiannus. Ges i bobl yn dweud wrtha i beidio sefydlu’r ymgyrch ar y cychwyn, ond fe wnes i ymddiried yn fy ngreddf ac roeddwn yn gwybod fy mod yn gallu gwneud hyn. Rydyn ni’n ei glywed drwy’r amser, ond mae’n wir: credwch ynoch chi’ch hun. Mae gennym ni i gyd lais, ac rwy’n addo i chi, mae gwerth i’ch llais yn rhywle.

Diolch yn fawr iawn i’m ffrindiau a helpodd fi i wneud fy ngweledigaeth yn bosibl.

Dyma gyfres o flogiau gennyf i a’m ffrindiau yn siarad am bopeth sy’n ymwneud â mislif. Gobeithiwn yn fawr y byddwch chi’n eu gweld yn ddefnyddiol!

Blogiau yn yr ymgyrch Caru dy Fislif

Mae’r blogiau yma wedi cael eu hysgrifennu gan bobl ifanc fel rhan o’r ymgyrch Caru dy Fislif.

Cefnogaeth gan Meic

Mae’r blog yma wedi cael ei ysgrifennu gan Molly Fenton, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r ymgyrch Love Your Period.

Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.

Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.

Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.