x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Cyngor ar Ddelio gyda Phoen Mislif a Symptomau Eraill

Padiau wedi cael eu haddurno. Mae un yn dweud 'Supply Ibuprofen for period pain'

Mae rhai pobl yn ffodus ac yn profi ychydig o symptomau yn ystod eu mislif, ac yn gallu cymryd tabledi a pharhau gyda’u diwrnod. Ond beth am y 29% arall sy’n profi poen mislif difrifol a phawb arall yn y canol?

Dyma flog gwadd gan Emily Handstock, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o ymgyrch Love Your Period.

Sut fath o boen sy’n ‘normal’?

Fel rhywun gyda endometriosis cam 4, rwyf wedi cael fy siâr o boen mislif. Felly, gobeithio, bydd y cyngor yma’n helpu ti reoli ychydig o dy boen.

Yn gyntaf, hoffaf ddweud os yw poen mislif yn dy atal rhag byw dy fywyd bob dydd, mae hynny’n ‘boen mislif difrifol‘. Nid yw’n normal na chwaith yn rhywbeth mae rhaid i ti ddioddef ar ben dy hun. Plîs cysyllta gyda dy feddyg teulu i gychwyn gwneud ymholiadau!

Emily Handstock, ymgyrchydd ifanc sy'n rhan o ymgyrch Love your Period
Emily Handstock

Poeth ac Oer

Gall newid mewn tymheredd fod yn fuddiol iawn yn ystod dy gylchred.

Mae poteli dŵr poeth yn wych, ond plîs defnyddia nhw’n ddiogel! Mae gan Love Your Period fideo ar sut i ddefnyddio poteli dŵr poeth yn ddiogel.

Wyddost di fod poteli dŵr oer yn gallu bod yr un mor effeithiol a llawer mwy cyfforddus mewn tywydd poeth?!

Os dwyt ti ddim yn meindio gwario ychydig, galli di brynu ‘patsys oer’ sy’n defnyddio ewcalyptws a menthol i oeri. Mae’n bosib defnyddio’r patsys yma o dan dy ddillad a pan ti allan o’r tŷ hefyd.

Potel dŵr poeth i helpu gyda poen mislif

Dulliau amgen i reoli poen mislif

Mae peiriannau TENS yn ffordd wych i reoli poen. Mae’r farchnad yn cynnwys rhai cludadwy a rhai traddodiadol gyda gwifrau i bob cyllideb! Mae ‘TENS’ yn sefyll am ‘Transcutaneous Electrical Nerve Stimulation’.

Mae’n gweithio trwy anfon ergyd trydanol ysgafn trwy’r croen i ysgogi nerfau. Gall helpu i leihau signalau poen ac o bosibl rhyddhau endorffinau. Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig cynllun rhentu i ti drio’r peiriant i weld os yw’r dull yma’n gweithio i ti

Ffordd arall o reoli’ch poen yw creu endorffinau’n naturiol. Dwi’n sylweddoli, i rai pobl, bydd hyd yn oed symud oddi ar y soffa neu’r gwely yn teimlo’n amhosibl pan fyddwch chi ar eich mislif. Ond os gallwch chi ymdopi â thaith gerdded neu hyd yn oed ychydig o ioga neu pilates ysgafn, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr. Gall cwblhau unrhyw fath o ymarfer corff roi ffrwydrad o serotonin ac endorffinau i chi i helpu i roi hwb i’ch hwyliau a lleddfu poen a symptomau eraill.

Paced o ibuprofen i helpu gyda poen mislif

Meddyginiaeth

Mae meddyginiaeth fel paracetamol neu ibuprofen yn gallu cael eu defnyddio i reoli poen. Os wyt ti’n teimlo bod y dos yn rhy isel i helpu dy symptomau, plîs siarada gyda dy feddyg teulu yn hytrach na hunan-feddyginiaethu. Galli di gael dy gyfeirio am adolygiad poen. Gall dy feddyg gynnig dulliau eraill i ti fel meddyginiaeth cryfach, patsys lidocaine neu cyngor i helpu ti reoli dy symptomau.

Cefnogaeth gan Meic

Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Emily Handstock, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.

Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.

Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.

Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.