Gwela fi, Clywa fi, Gwerthfawroga fi! Dathlu Wythnos Anableddau Dysgu

Pwrpas y blog yma yw sicrhau fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael eu clywed, eu gweld a’u dathlu am eu cyfraniadau gwych i’r celfyddydau, cyfryngau a diwylliant.
Pam bod cynrychiolaeth yn bwysig?
Pan rydym yn gweld pobl sy’n debyg i ni mewn rhaglenni teledu a ffilmiau neu yn y byd ffasiwn a chelf, mae’n gwneud i ni deimlo fod pobl yn ein deall, ein gwerthfawrogi ac rydym yn teimlo fel ein bod yn perthyn. Dyna pam bod cynrychiolaeth yn y cyfryngau mor bwysig – mae’n dangos yr amrywiaeth anhygoel o dalent sy’n bodoli. Testun y blog yma yw gwneud yn siŵr fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael eu clywed, eu gweld a’u dathlu am eu cyfraniadau gwych i’r celfyddydau, cyfryngau a diwylliant.
Pam rydym yn canolbwyntio ar anableddau dysgu?
Mae Wythnos Anableddau Dysgu yn ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu gan yr elusen Mencap. Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o sut brofiad yw byw gydag anabledd dysgu. Y thema eleni (2025) yw “Wyt ti’n fy ngweld i?”. Mae’n canolbwyntio ar sut mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi.
Hoffem rannu ychydig o enghreifftiau sy’n dathlu’r thema a chyfraniadau pobl ag anableddau dysgu i’r celfyddydau, cyfryngau a diwylliant.
Ellie Goldstein
Mae Ellie yn fodel sydd wedi bod ar glawr cylchgrawn Vogue yn ogystal â sawl swydd arall yn y diwydiant ffasiwn a harddwch. Mae hi wedi gweithio fel actor, dawnswraig ac awdur hefyd. Fe ysgrifennodd lyfr i blant yn seiliedig ar ei bywyd hi. Yn 2025, roedd hi’n rhan o The Great Celebrity Bake Off: Stand Up 2 Cancer ac mae hi’n llysgennad i Mencap.
Mae Ellie wedi herio stereoteipiau yn y diwydiant modelu ac wedi dangos i’r byd fod pobl ag anableddau dysgu yn gallu gwneud unrhyw beth. Mae Ellie yn parhau i ysbrydoli ac annog eraill i ddilyn eu breuddwydion.
Tommy Jessop
Mae Tommy yn actor sydd wedi cael nifer o ddarnau ar y teledu ac ar lwyfan, yn cynnwys y brif ran yn Hamlet gan Shakespeare. Un o’i ddarnau enwocaf oedd chwarae rhan Terry Boyle yn Line of Duty. Fe wnaeth raglen ddogfen o’r enw Tommy Jessop goes to Hollywood am ei hanes yn mynd a’i syniad am ffilm i Hollywood. Roedd y rhaglen ddogfen yn uwcholeuo’r ddiffyg cynrychiolaeth ac amrywiaeth i bobl sydd ag anableddau dysgu yn y diwydiant ffilm.
Mae Tommy yn llysgennad i Mencap ac mae’n ymgyrchu dros hawliau pobl sydd â syndrom Down.
The Assembly
Mae The Assembly yn rhaglen teledu ble mae grŵp o bobl anabl, awtistig a niwrowahanol yn cyfweld sêr. Maent yn trafod bob math o bethau ac yn gofyn rhai cwestiynau heriol. Mae nifer o olygfeydd ysgafn a doniol yn y sioe hefyd.
Mae’r ystod o gwestiynau a’r amrywiaeth yn y grŵp yn pwysleisio na ddylent wneud rhagdybiaethau am brofiadau pobl niwrowahanol neu anabl. Maent yn dangos eu doniau creadigol drwy wneud perfformiad ym mhob sioe hefyd.
Housemates
Mae Housemates yn ddrama wedi’i berfformio gan actorion a cherddorion niwrowahanol a niwrodebygol o Hijinx a Theatr Sherman. Mae’n adrodd stori wir am grŵp o fyfyrwyr o Gaerdydd a phobl ag anabledd dysgu oedd yn byw yn Ysbyty Elai.
Mae’r stori yn dangos sut wnaethant weithio gyda’i gilydd i roi diwedd ar ofal sefydliadol a chyflwyno’r model o fyw gyda chefnogaeth. Roedd hyn yn galluogi pobl ag anableddau dysgu i fwy a chael eu cynnwys mewn cymunedau yn hytrach na sefydliadau. Roedd yn gyfnod pwysig yn hanes hawliau a rhyddid pobl sydd ag anableddau dysgu.
Gŵyl Undod
Mae Hijinx yn cynnal gŵyl yng Nghaerdydd o’r enw Gwŷl Undod. Mae’n arddangos a dathlu talentau creadigol pobl niwrowahanol, awtistig ac artistiaid sydd ag anableddau dysgu. Dyma’r ŵyl gelfyddydau cynhwysol fwyaf yn Ewrop a’r unig un o’r fath yng Nghymru.
Dyma ychydig o enghreifftiau o gyflawniadau pobl sydd ag anableddau dysgu. Dilynwch Wythnos Anableddau Dysgu i weld mwy o hanesion ysbrydoledig a dysgu am fwy o ffyrdd i gyfrannu tuag at yr ymgyrch. Gallwch chi ddarganfod mwy ar wefan Mencap neu drwy ddilyn eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Eisiau siarad am anableddau dysgu? Cysyllta gydag un o’n cynghorwyr caredig ar linell gymorth Meic o 8yb i hanner nos bob dydd.
