x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Osgoi Sgamiau a Chadw’n Ddiogel Ar-lein

Llun cartwn yn dangos merch yn eistedd wrth gyfrifiadur a tu ol i'r sgrin mae dyn mewn du yn cynrychioli sgamiwr

Mae’r we yn rhan fawr o’n bywydau ni. Rydym yn cysylltu gyda ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol ac yn chwilio am fargeinion ar-lein. Ond, mae sgamwyr yn defnyddio’r we hefyd. Dyma ganllaw ar sut i wneud y defnydd gorau o’r we, osgoi sgamiau a chadw’n yn ddiogel ar-lein

Cynigion sy’n rhy dda i fod yn wir

Os wyt ti’n gweld bargen ar-lein sydd yn anhygoel o dda fel ffôn newydd sbon yn rhad iawn, bydd yn ofalus. Gall hyn feddwl bod y nwyddau yn rhai ffug, gall fod yn ymgais i ddwyn dy fanylion banc neu efallai bod y cynnyrch ddim hyd yn oed yn bodoli. Os ydy rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mwy na thebyg ei fod o.

Ceisiadau brys am arian

Mae sgamwyr yn ceisio gwneud i ti deimlo panig. Efallai byddant yn honni bod aelod o dy deulu mewn trafferth neu dy fod am fethu allan ar gynnig arbennig sydd ond ar gael heddiw. Eu bwriad yw rhoi pwysau arnat ti i wneud penderfyniad heb feddwl. Cymer funud i feddwl, gwiria’r wybodaeth yn annibynnol a siarada gyda rhywun cyn gwneud unrhyw beth.

E-byst a negeseuon gwe-rwydo

Mae gwe-rwydo (phishing) yn sgam cyffredin pan mae sgamwyr yn ceisio cael dy fanylion personol. Mae’r sgamiau yma fel arfer yn negeseuon neu e-byst sydd yn edrych fel eu bod yn dod gan blatfformau dilys fel dy fanc, gwefannau cyfryngau cymdeithasol neu’r llywodraeth. Maent yn aml yn cynnwys dolenni ac atodiadau sy’n mynd a ti i wefannau ffug (sy’n debyg iawn i’r rhai go iawn) sydd wedi’u dylunio i ddwyn dy fanylion neu lawrlwytho maleiswedd (malware) ar dy ddyfais.

Paid clicio ar ddolenni neu atodiadau gan bobl ddiarth. Gwiria’r e-bost am gamsillafiadau ac enwau pyrth (domain) anghyffredin. Hyd yn oed os wyt ti’n meddwl bod y neges yn ddibynadwy, mae’n well gwneud yn siŵr bod y neges yn dod gan y person neu’r sefydliad cywir.

Graffeg o URL gwefan gyda padloc a https

Gwefannau ffug

Mae gwefannau ffug wedi’u dylunio i edrych yr un fath a gwefannau go iawn er mwyn cael mynediad at dy wybodaeth bersonol. Cyn teipio unrhyw wybodaeth sensitif, fel manylion dy gerdyn banc neu dy fanylion mewngofnodi, gwiria gyfeiriad y wefan (URL). Galli di ddod o hyd i’r URL ar frig y dudalen. Mae’r URL yn rhes hir o lythrennau a symbolau sy’n cychwyn gyda “http” neu “https”.

Edrycha am y symbol padloc (HTTPS) drws nesaf i’r URL. Os wyt ti’n gweld “http” heb yr “s” neu symbol padloc, nid yw’r cysylltiad yn ddiogel ac mae angen cymryd gofal.

Gwylia allan am wefannau sydd wedi’u camsillafu, wedi’u dylunio mewn ffordd amhroffesiynol neu os yw cyfeiriad y wefan yn anghyffredin.

Sgamiau rhamant

Mae sgamiau rhamant yn targedu pobl sy’n chwilio am gariad ar-lein. Mae sgamwyr yn creu proffil ffug ac yn ceisio meithrin cysylltiad emosiynol yn sydyn. Yna, byddant yn gofyn am arian, fel arfer ar gyfer argyfyngau ffug fel costau teithio neu filiau meddygol. Paid gyrru arian i unrhyw un ti wedi cwrdd ar-lein, dim ots pa mor gryf yw’r cysylltiad rhyngoch chi.

Sgamiau technoleg

Mae sgamiau technoleg fel arfer yn negeseuon neu alwadau annisgwyl sy’n honni fod feirws yn dy gyfrifiadur. Maent yn ceisio cael mynediad o bell i dy gyfrifiadur i ddatrys y broblem, ond byddant yn lawrlwytho maleiswedd neu dwyn dy ddata. Paid â rhoi mynediad o bell i dy gyfrifiadur i rywun dwyt ti ddim yn eu hadnabod. Ni fydd cwmnïau technoleg yn cysylltu gyda thi yn annisgwyl fel hyn.

Gwiria adolygiadau

Cyn prynu o wefannau newydd, gwiria adolygiadau gan siopwyr eraill. Mae gwefannau fel Trustpilot yn ddefnyddiol. Edrycha am adolygiadau negyddol, adroddiadau am sgamiau neu nifer amheus o adolygiadau pum seren. Gall hyn helpu ti wybod os yw gwefan yn ddibynadwy.

Graffeg o allwedd yn codi pwysau. Mae'n dangos bod diogelwch yn gryfder.

Gwarchod gwybodaeth bersonol

Bydd yn ymwybodol o’r hyn ti’n rhannu ar-lein, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol. Gall sgamwyr ddefnyddio’r wybodaeth yma i dy dargedu. Defnyddia gyfrineiriau cryf ac unigryw i dy gyfrifon a defnyddia brawf dilysu dau gam pryd bynnag mae modd.

Hysbysu am weithgarwch amheus

Os wyt ti’n gweld rhywbeth amheus neu os wyt ti’n meddwl dy fod wedi cael dy dargedu gan sgamwyr, mae’n bwysig hysbysu’r awdurdodau cywir. Yng Nghymru, Action Fraud sy’n derbyn adroddiadau am dwyll ar-lein.

Bydd yn ofalus gyda Wi-Fi cyhoeddus

Mae’n well osgoi gwneud pethau fel bancio neu brynu nwyddau pan wyt ti’n defnyddio Wi-Fi cyhoeddus. Nid yw’r rhwydweithiau yma’n cael eu diogelu cystal â Wi-Fi cyffredin, sy’n gwneud hi’n haws i sgamwyr ddwyn dy ddata. Os oes rhaid i ti ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus, ystyria ddefnyddio VPN i fod yn fwy diogel.

Sgamiau cyfryngau cymdeithasol

Bydd yn wyliadwrus o gynnwys, cwisiau neu holiaduron amheus ar-lein sy’n gofyn am dy fanylion. Gallent gael eu defnyddio i ddwyn dy hunaniaeth neu ar gyfer sgamiau eraill. Paid â rhannu gwybodaeth sensitif os nad wyt ti’n hollol siŵr pwy sydd yn derbyn y wybodaeth.

Graffeg o berson yn dal ffon symudol ac yn negeseuo rhywun diarth.

Sgamiau ocsiwn

Os wyt ti’n prynu a gwerthu nwyddau mewn ocsiwn ar-lein neu ar dudalennau cymunedol fel Facebook Marketplace, bydda’n ofalus gyda phrynwyr sydd eisiau talu gyda dulliau anghyffredin fel defnyddio talebau. Hefyd, gwylia allan am brynwyr sy’n talu gormod ac yna’n gofyn am eu harian yn ôl. Os wyt ti’n cwrdd â gwerthwr wyneb yn wyneb, mae’n bwysig cyfarfod mewn lle cyhoeddus.

Sgamiau elusennol

Cyn cyfrannu arian at elusen ar-lein, sicrha fod yn elusen yn un dilys. Chwilia am rif elusen gofrestredig a chwilia am ffyrdd o gyfrannu’n ddiogel. Bydd yn wyliadwrus o geisiadau annisgwyl am arian, yn enwedig os ydynt yn rhoi pwysau arnat ti i gyfrannu.

Sgamiau cystadleuaeth a’r loteri

Bydd yn wyliadwrus o negeseuon sy’n dweud dy fod wedi ennill cystadleuaeth neu loteri nad oeddet ti wedi trio amdano. Mae’r rhain fel arfer yn gofyn i ti dalu ffi i gael dy wobr, a wnei di byth dderbyn.

Sgamiau swyddi

Bydd yn ofalus gyda chynigion swyddi sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, yn enwedig rhai sy’n gofyn i ti dalu am hyfforddiant neu offer ymlaen llaw. Ymchwilia’n drylwyr i’r cwmni.

Diweddarwch eich meddalwedd

Mae diweddaru meddalwedd dy ddyfeisiau yn sicrhau dy fod yn aros yn ddiogel rhag sgamiau. Mae diweddariadau yn uwchraddio diogelwch dy ddyfais i’w warchod yn erbyn sgamwyr, felly mae’n hollbwysig sicrhau dy fod yn gwneud hyn yn gyson.

Angen siarad gyda rhywun am sgamiau?

Poeni am sgamiau? Angen siarad â rhywun? Os wyt ti’n poeni amdanat ti dy hun neu rywun arall, neu os wyt ti wedi cael dy sgamio, mae Meic yma i helpu. Rydym yn cynnig cefnogaeth am ddim a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i helpu ti gael y cymorth ti angen. Rydym ar gael o 8yb tan hanner nos bob dydd, dros y ffôn, neges destun neu Whatsapp a sgwrs ar-lein.

Erthyglau Perthnasol