Deall Atal Dweud (Stammering) a Sut i Gael Cymorth

Mae pawb eisiau teimlo eu bod yn cael eu clywed, ond i rai pobl, gall siarad fod yn her fawr. Gall atal dweud (‘stammering’ neu ‘stuttering’) ei gwneud hi’n anoddach i ddweud y pethau ti eisiau, unrhyw adeg yr wyt ti eisiau.
Os wyt ti’n atal dweud neu’n adnabod rhywun sy’n gwneud hynny, mae’r blog yma i ti. Byddwn yn edrych ar beth yw atal dweud a sut i ddarganfod cymorth neu sut i fod yn ffrind gwych.
Beth yw atal dweud?
Atal dweud yw pan fydd dy lif siarad yn cael ei dorri. Efallai dy fod di’n ailadrodd synau neu eiriau, fel “b-b-b-beth”, neu efallai dy fod di’n ymestyn synau, fel “sssssssiswrn.” Weithiau, efallai y byddi di’n sownd. Efallai na fyddi di’n gallu cael sain allan o gwbl. Rhwystrau yw’r rhain. Nid yw atal dweud yn fai arnat ti. Nid yw’n arwydd o nerfusrwydd na swildod. Y gwir yw, mae ymennydd rhai pobl yn prosesu siarad fel hyn.
Mae rhai pobl enwog wedi rhannu eu profiad o atal dweud, fel Ed Sheeran ac Emily Blunt! Mae pobl eraill, fel Jessie Yendel, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o atal dweud a rhannu sut beth ydyw. O ganlyniad i hynny maent wedi dod yn adnabyddus iawn.
Sut beth yw byw gydag atal dweud
Gall byw gydag atal dweud fod yn anodd. Efallai bydd yn gwneud i ti deimlo’n bryderus i siarad o flaen eraill. Efallai dy fod di’n poeni am archebu bwyd neu ateb cwestiynau yn y dosbarth. Weithiau gall hyn arwain at osgoi geiriau neu sefyllfaoedd penodol, gan dy fod di’n teimlo’n rhwystredig neu’n chwithig. Mae’n bwysig cofio bod y teimladau yma yn normal ac nad ti yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn.
Gall atal dweud newid o ddydd i ddydd hefyd. Gall rhai dyddiau fod yn haws nag eraill. Gall rhai sefyllfaoedd ei wneud yn fwy amlwg. Er enghraifft, pan fyddi di’n flinedig, yn gyffrous, neu dan bwysau.
Cael cefnogaeth ar gyfer atal dweud
Os wyt ti’n atal dweud, mae llawer o help ar gael. Y cam cyntaf yn aml yw siarad ag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt, fel rhiant, athro, neu aelod arall o’r teulu. Gallant helpu ti i ddod o hyd i gefnogaeth broffesiynol.
Mae therapydd iaith a lleferydd yn arbenigwr a all helpu gydag atal dweud. Gallant ddysgu technegau i ti fydd yn helpu i reoli dy siarad. Gallant hefyd dy helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad. Mae’n ymwneud â dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i ti. Paid bod ofn gofyn am help. Gall wneud gwir wahaniaeth.
Cefnogi rhywun sy’n atal dweud
Mae bod yn ffrind neu deulu da yn ymwneud â bod yn ddeallus ac yn amyneddgar. Os wyt ti’n adnabod rhywun sy’n atal dweud, dyma rai pethau gallet ti eu gwneud:
- Gwrando yn amyneddgar: Gad iddytn orffen eu brawddegau. Paid â thorri ar draws na cheisio gorffen eu geiriau ar eu rhan.
- Cadwa gyswllt llygad: Dangosa dy fod di’n gwrando trwy edrych arnyn nhw.
- Paid â chynnig cyngor: Oni bai eu bod nhw’n gofyn amdano, ceisia beidio â rhoi awgrymiadau fel “ymlacia.” Yn aml nid yw’n helpu.
- Trin nhw’n normal: Canolbwyntia ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud, nid sut maen nhw’n ei ddweud. Maen nhw’n dal i fod yr un person!
- Bydda’n gyfaill: Os yw rhywun yn gwneud hwyl am eu hatal dweud, sefyll i fyny drostynt.
Cofia, mae amynedd a charedigrwydd yn mynd yn bell.
Ti’n fwy na dy atal dweud
Mae dy lais di’n bwysig. Dim ond un rhan ohonot yw’r atal dweud – nid yw’n diffinio ti. Canolbwyntia ar dy gryfderau a’r holl bethau anhygoel fedri di eu gwneud. Paid â gadael i atal dweud dy atal rhag cyflawni dy nodau.
Os wyt ti’n cael trafferth gyda sut rwyt ti’n teimlo am dy atal dweud, cofia fod Meic yma i helpu. Fedri di gysylltu â ni am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim. Gallwn helpu i ddod o hyd i wasanaethau lleol neu fod yno i wrando.















