Wythnos Caru dy Ysgyfaint 2025

Mae hi’n Wythnos Caru dy Ysgyfaint yr wythnos hon (23-27 o Fehefin). Ymgyrch gan Asthma and Lung UK i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gymryd camau i wella iechyd eu hysgyfaint.
Pam bod yr wythnos hon yn bwysig?
Gyda chlefyd yr ysgyfaint yn effeithio ar fwy o bobl na chlefyd y galon a chanser gyda’i gilydd, a bron pawb yn debygol o brofi cyflwr ysgyfaint yn eu hoes, mae’r wythnos hon yn bwysig.
Mae’r ymgyrch eleni yn rhoi pwyslais ar greu arferion iachach. Mae newidiadau syml fel dewis y grisiau dros lifft, cerdded neu seiclo i’r gwaith, neu gymryd ‘awr o awyr iach’ bob dydd yn gallu cyfrannu at well iechyd ysgyfaint. Mae’r camau bach yma yn gwella ein hiechyd corfforol ac yn lleihau llygredd ac yn gwella ansawdd yr aer rydym i gyd yn ein hanadlu.
Gwahardd fêps tafladwy ym Mhrydain
Daw’r ymgyrch ar ôl newid sylweddol ym Mhrydain. O 1 Mehefin 2025, mae fêps tafladwy wedi’u gwahardd yn swyddogol. Mae’r gwaharddiad fêps yn cefnogi’r un amcanion â’r ymgyrch: rhoi’r neges i bawb, yn enwedig y genhedlaeth iau, fod iechyd yr ysgyfaint yn bwysig.
Mae fêpio wedi’i hyrwyddo fel opsiwn llai niweidiol, ond mae ymchwil yn codi pryderon am ddiogelwch fêps tafladwy. Mae pryderon oherwydd eu cynnwys nicotin uchel a’u hapêl i bobl ifanc, oedd ddim arfer ysmygu.
Cefnogaeth ac adnoddau
Os wyt ti eisiau dysgu mwy am Wythnos Caru dy Ysgyfaint, edrycha ar wefan Asthma and Lung UK am fwy o wybodaeth ac adnoddau. Galli di gynnal digwyddiad i godi ymwybyddiaeth neu geisio ychwanegu mwy o arferion iach i dy fywyd bob dydd.
Os wyt ti eisiau rhoi gorau i fêpio, edrycha ar yr adnoddau ar Smokefreeteen. Mae ganddynt adnoddau a chyngor ymarferol i helpu ti ddelio gydag effaith rhoi gorau i fêpio. Os hoffet ti fwy o gefnogaeth, siarada gyda Meic. Rydym yn rhedeg llinell gymorth cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth yng Nghymru. Galli di gael cefnogaeth yn ddienw dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.
