x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ydy E-smygu (Vaping) yn Ddiogel i Bobl Ifanc?

Nid yw Meic yma i ddweud wrthyt ti beth ddylet ti, neu dylet ti ddim gwneud. Rydym yma i roi gwybodaeth a chyngor fel y gallet ti wneud penderfyniadau gwybodus. Yn y blog yma, edrychwn ar e-smygu a’r peryglon.

Beth yw e-smygu?

Mae e-sigarét, neu vape, yn ddyfais sydd yn rhedeg ar fatri sydd yn troi hylif yn ager (vapour). E-smygu ydy pan fyddi di’n anadlu’r ager yma i mewn i’r ysgyfaint a’i chwythu yn ôl allan.

Y gwahaniaeth rhwng e-smygu ac ysmygu ydy bod sigaréts yn llosgi tybaco i ryddhau mwg, nid ager. Ceir dros 5,000 o gemegau mewn sigarét sy’n llosgi, a llawer o’r rhain yn gallu achosi canser. Mae e-sigaréts hefyd yn cynnwys cemegau, ond lefelau llawer is. Mae pobl yn dweud bod e-smygu yn llai niweidiol nag ysmygu, ond nid yw’n golygu ei fod yn ddiogel.

Mae’r hylif mewn e-sigarét yn cynnwys nicotin, blas, a chemegau eraill fel arfer. Yn union fel sigaréts, mae nicotin yn sylwedd caethiwus iawn ac yn gallu bod yn anodd rhoi’r gorau iddo. Mae ceisio stopio yn gallu achosi chwant a symptomau rhoi’r gorau, sydd yn ei wneud yn anodd stopio.

Mae rhai e-sigaréts yn cael eu haddasu i gynnwys sylweddau fel CBD a THC, cemegau sydd i’w cael mewn canabis.

Dyn yn dal e-sigarêt i'r camera gyda mwg mawr yn gorchuddio ei wyneb

Pam bod e-sigaréts wedi dod yn boblogaidd?

Cyflwynwyd e-sigaréts fel ffordd fwy diogel i gael nicotin, gan fod e-sigaréts sy’n cael eu gwerthu’n gyfreithiol yn cynnwys llai o gemegau niweidiol na thybaco. Mae rhai’n credu bod e-smygu yn gallu helpu rhywun i stopio ysmygu.

Dim ond i rai dros 18 oed gellir gwerthu e-sigaréts yn gyfreithiol. Er hynny, maent wedi dod yn boblogaidd ymysg plant a phobl ifanc. Mae e-sigaréts yn dod mewn gwahanol liwiau a dyluniadau, gyda phecynnu lliwgar a sawl blas gwahanol, gan gynnwys gwm swigod, candi-fflos a mefus. Mae’n hawdd gweld sut y gall hyn apelio i blant a phobl ifanc.

Pam bod pobl ifanc yn e-smygu?

Mae sawl rheswm pam bod rhywun efo diddordeb mewn e-smygu, gan gynnwys:

  • rhieni, brawd, chwaer, neu ffrindiau yn gwneud
  • pwysa gan bobl o’r un oedran
  • chwilfrydedd
  • eisiau trio
  • eisiau ffitio i mewn
  • mae’n edrych yn cŵl
  • gwneud triciau gyda’r ager
  • mae’n newydd ac yn gyffrous
  • eisiau edrych yn hŷn
  • mae’n fwy diogel nag ysmygu
  • ti ddim yn deall y peryglon
Sawl e-sigarêt ar fwrdd gyda mwg o'u cwmpas

Ydy e-smygu yn ddiogel?

Mae e-smygu yn eithaf newydd o hyd, ac mae ymchwil yn cymryd amser ac arian. Oherwydd hyn, nid oes llawer o dystiolaeth am beryglon hirdymor e-smygu. Tra bod rhaid i ni ddisgwyl am y dystiolaeth yma, mae yna bethau rydym yn ymwybodol ohono yn barod.

Er bod e-smygu yn fwy diogel nag ysmygu i rai sydd yn newid o sigaréts, nid yw heb ei beryglon. Nid yw’n dda i rai o dan 18 oed, sydd â chyrff, ysgyfaint ac ymennydd sydd yn dal i ddatblygu. Gall anadlu cemegau, ym mha bynnag ffordd, niweidio’r corff.

Mae tagu a dolur gwddf yn effaith byrdymor e-smygu. Ceir rhai adroddiadau o afiechyd y deintgig a’r ysgyfaint; a rhai pobl ifanc wedi bod yn yr adran gofal dwys o ganlyn e-smygu.

Mae defnyddio nicotin fel person ifanc yn gallu:

  • ei wneud yn anoddach canolbwyntio, cofio a dysgu
  • arwain at anhwylderau dysgu a phryder
  • cynyddu’r perygl o gaethiwed i gyffuriau yn y dyfodol

Gall e-smygu fod yn niweidiol i’r bobl o’th gwmpas hefyd. Mae’r ager sydd yn cael ei chwythu allan yn gallu cael ei anadlu gan bobl eraill (mwg ail-law). Golygai hyn bod y bobl o’th gwmpas hefyd mewn perygl o’r cemegau yma.

Penglog du ar gefndir gwyn yn arwydd o rybudd

E-sigaréts anghyfreithlon

Gall unrhyw un dros 18 oed brynu e-sigaréts yn y siop yn gyfreithiol, ond mae e-sigaréts anghyfreithlon yn cael eu gwerthu hefyd. Mae’r e-sigaréts anghyfreithlon yma yn gallu bod yn beryglus gyda lefelau uchel o blwm a sylweddau gwenwynig eraill sydd yn niweidiol iawn i’r corff.

Gwiria bod dy e-sigarét yn gyfreithiol ac yn cyrraedd y gofynion diogelwch lleiaf. Dylai gynnwys 20mg/ml neu lai o nicotin (cywerth i 2% neu lai).

Mae pacedi e-sigaréts yn gorfod bod â rhybudd nicotin. Dylai ddweud, ‘This product contains nicotine which is a highly addictive substance’. Weithiau mae’r rhybudd yn cael ei ysgrifennu yn fach iawn ac ar ochr y bocs. Os nad oes rhybudd ar y pecyn yna gall dy e-sigarét fod yn anghyfreithlon.

Dibyniaeth i e-sigaréts

Mae rhai pobl ifanc sydd yn dechrau e-smygu yn ei chael yn anodd iawn stopio. Dibyniaeth yw hyn, sydd yn digwydd oherwydd y nicotin sydd mewn e-sigaréts.

Efallai bod gen ti ddibyniaeth os wyt ti’n:

  • meddwl am dy e-sigarét nesaf drwy’r adeg
  • cael cur pen neu’n teimlo’n ben ysgafn os nad wyt ti wedi cael e-sigarét ers sbel
  • cuddio yn nhoiledau’r ysgol, coleg neu brifysgol i e-smygu
  • teimlo angen e-smygu mewn gwersi neu yn y gwaith
  • mynd trwy sawl e-sigarét yr wythnos
  • teimlo’n bryderus, aflonydd ac yn flin ar ôl peidio e-smygu ers sbel
  • pendroni sut fedri di fforddio dy e-sigarét neu hylif e-sigarét nesaf
  • ystyried dwyn arian i brynu e-sigaréts neu hylif e-sigaréts newydd
  • cymryd ac yn defnyddio e-sigaréts teulu neu ffrindiau heb ganiatâd

Eisiau rhoi’r gorau i e-smygu?

Gall e-smygu fod yn niweidiol i dy iechyd ac mae’n ddrud iawn. Os wyt ti’n meddwl am roi’r gorau iddi, dyma ychydig o gyngor i helpu.

Paid gostwng y nicotin yn dy e-sigarét yn rhy sydyn – gall hyn gynyddu chwant a symptomau stopio. Gwna’n raddol dros amser.

Os wyt ti’n newydd i e-smygu, a ddim yn ysmygu sigaréts cynt, yna gorau po gyntaf i stopio. Mae’n haws gwneud cyn i’r ddibyniaeth nicotin gychwyn yn iawn.

Newid i e-sigaréts heb flas neu rhai efo llai o nicotin. Efallai bydd yn haws i ti stopio wedyn.

E-smygu oherwydd straen? Mae ffyrdd iachach i ostwng lefelau straen a gofalu am dy iechyd a lles meddwl. Ymarfer corff, bwyta’n iach a gwna bethau ti’n mwynhau.

Cymorth i stopio

Os wyt ti’n poeni am e-smygu ac eisiau siarad gyda rhywun am stopio, cysyllta â ni ar linell gymorth Meic. Gellir siarad â’n cynghorwyr cyfeillgar yn ddienw, heb neb yn barnu. Cysyllta am ddim ar y ffôn, tecst, neu gwrs ar-lein o 8yb tan hanner nos yn ddyddiol.

Dibyniaeth e-sigaréts ac eisiau stopio? Defnyddia wasanaeth Helpa Fi i Stopio’r GIG.

Gallet ti hefyd siarad â’r doctor neu fferyllydd lleol, sydd yn gallu cynghori ar feddyginiaeth stopio nicotin.

Erthyglau Perthnasol