x
Cuddio'r dudalen

Nadolig: Ddim yr ŵyl fwyaf hwylus i rai pobl ifanc

Gall y Nadolig fod yr amser gwaethaf yn y flwyddyn i rai pobl ifanc. Mae Meic – y llinell gymorth genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru – wedi gofyn i bobl ifanc i rannu eu profiad ar ffilm, i amlygu “gwir ystyr y Nadolig”.

To read this content in English – click here

Mae’r fideo newydd personol a heriol (gwyliwch yma ar dudalen YouTube Meic) yn cyd-fynd â’r ffigyrau gan Meic sydd yn dangos bod cannoedd o bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn angen rhywun i siarad â nhw dros y Nadolig – gyda’r brif broblem dros y tair i bedair blynedd diwethaf, yn berthnasau.

*Cliciwch ar yr opsiwn isdeitlau i weld yr isdeitlau Cymraeg.

Dywedai Pennaeth Meic, Stephanie Hoffman, “Y tu ôl i’r goleuadau llachar, yr anrhegion a’r papur, mae llawer o bobl ifanc yn cael problemau dros y Nadolig. Rydym wedi clywed gan lawer ohonynt sydd wedi cael trafferth gydag arian, perthnasau, iechyd meddwl, hawliau, a mwy.”

Mae seren y ffilm, Laolu, 21, yn dweud, “Dros y Nadolig, [mae gen i’r] ofn mawr o fynd yn hen…  heb anghofio’r terfynau amser… Cofiwch, bod gallu rhai pobl i deimlo’n ‘ddiolchgar’ neu’n ‘optimistaidd’ yn amhosib oherwydd rhesymau meddygol.”

Dywedodd James, person ifanc o Gaerdydd, “Nid oes posib teimlo hwyliau da’r Nadolig os ydych chi’n ffraeo gyda’ch teulu… ac [mae yna] synnwyr o deimlo fel nad wyt ti’n perthyn.

“Mae yna hefyd yr ofn o beth sydd i ddod yn y flwyddyn newydd… a dim digon o arian i brynu popeth ar gyfer y Nadolig.”

Laolu's story - dark Christmas tree

“Mae Meic yma i helpu a chefnogi pobl ifanc trwy’r amseroedd anodd fel y Nadolig – nid oes rhaid dioddef yn ddistaw bach. Gallem wrando, siarad a helpu chi i ddarganfod ffordd o symud ymlaen,” medai Ms Hoffman.

Gall plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru gysylltu â Meic  365 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys diwrnod y Nadolig a Dydd Calan), 8am – hanner nos drwy negeseuo gwib, neges testun, ffôn neu e-bost.

Am wybodaeth bellach, ymwelwch â http://www.meiccymru.org. Gallwch wylio ‘Nadolig’ gan Laolu yma ar dudalen YouTube Meic gydag is-deitlau Cymraeg.