Coda’r Meic: Gobaith gan Oroeswr Iechyd Meddwl

Mae Coda’r Meic yr wythnos hon ychydig yn wahanol. Mae’n rhywun sydd eisiau rhannu ei stori iechyd meddwl a’r help derbyniwyd. Goroeswr ydynt – ac fe alli di fod hefyd.
Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.
Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here.
Helo Meic
Rwyf wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ers i mi fod yn 11 oed. Cychwynnais wrth ddechrau clywed lleisiau, hunan niweidio a phrofi pryder ofnadwy, wedi’i ddilyn gydag iselder clinigol. Achosodd hyn i mi dorri i lawr yn feddyliol ac arwain at gael fy ngorchymyn i Uned CAMHS (Gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed).
Cefais ddiagnosis o anhwylder rhithdyb gyson ac anhwylder trawma cymhleth (PTSD Cymhleth), sy’n cael ei adnabod hefyd fel anhwylder trawma datblygiad. Yn ogystal â hyn mae gen i anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) ac anhwylder hunaniaeth ddatgysylltiol (DID). Ar ôl misoedd o feddyginiaeth a therapïau gwahanol, rwyf wedi darganfod y driniaeth gywir i mi, DBT (therapi ymddygiad dilechdidol) yn seiliedig ar drawma, sydd yn help mawr i mi.Ni fyddwn yma heb CAMHS, creda di fi! Mae gen i gymaint o broblemau ac rwyf yn teimlo’n hunanladdol pob dydd, ond os oes gen ti salwch meddwl creda mi fyddi di’n GWELLA!! Maen nhw’n dweud bod pobl sydd wedi profi trawma yn ddioddefwyr, ond y gwirionedd ydy mai goroeswyr ydym ni! Os ydym ni wedi llwyddo goroesi’r cyfnod tywyllaf yn ein bywydau (trawma), gallem oroesi a threchu salwch meddwl!!!!
Cariad mawr i bawb.Ymateb Meic
Diolch yn fawr iawn am gysylltu gyda ni trwy Coda’r Meic. Mae dy stori yn un ysbrydoledig iawn ac yn un fydd yn rhoi gobaith i gymaint o bobl ifanc sydd yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, fel yr wyt ti, yn aml o oedran ifanc.Amrywiaeth
15 ffordd i wella dy iechyd meddwl
1. Dweud wrth bobl beth sy’n helpu 2. Dod i adnabod dy arwyddion rhybudd cynnar 3. Cadw dyddiadur hwyliau 4. Adeiladu ar dy hunan-barch 5. Cysylltu gyda phobl eraill
6. Derbyn cefnogaeth gan bobl yn yr un sefyllfa
7. Gwneud rhywbeth i ymlacio
8. Rhoi tro ar ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness)
9. Cael allan i’r awyr agored
10. Cysgu pan fyddi di’n teimlo bod angen
11. Bwyta bwyd iach
12. Ymarfer corff
13. Osgoi alcohol/cyffuriau
14. Cadw amser i ofal personol
15 Cysylltu gyda sefydliad arbenigol
Gobeithiwn fod clywed dy stori yn rhoi gobaith i bobl ifanc eraill sydd yn ymdrechu gyda phroblemau iechyd meddwl eu hunain. Diolch unwaith eto i ti am rannu dy stori.
Y Tîm Meic

Galwa Meic
Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.












		
