-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unigolion sy’n 25 oed neu’n iau ac sy’n byw, gweithio neu astudio yng Nghymru.
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid i gyfranogwyr gwblhau arolwg adborth gwefan Meic. Dim ond unwaith caniateir i ti gystadlu. Ni fydd cynigion lluosog, hwyr neu anghyflawn yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
Er bod yr arolwg ei hun yn ddienw, bydd rhaid i ti roi cyfeiriad e-bost dilys ar ddiwedd yr arolwg i gael dy gynnwys yn y gystadleuaeth. Bydd y cyfeiriad e-bost yma yn cael ei ddefnyddio at bwrpas cysylltu’r enillydd ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall, gan gynnwys marchnata.
Y wobr yw Taleb One4All £50. Mae dros 180 o frandiau yn derbyn y daleb, gan gynnwys rhai ar y stryd fawr, ar-lein, sinemâu a llefydd bwyta. Cedwir pob hawl gan ProMo Cymru, ble bo’n rhesymol angenrheidiol i gyfnewid unrhyw wobr am wobr o werth cyfartal neu fwy. Ni ellir trosglwyddo’r wobr, a ni fydd arian parod yn cael ei gynnig yn ei le.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis trwy ddewis ar hap. Bydd pob cyfeiriad e-bost a ddarperir gan y rhai sydd wedi llenwi’r arolwg yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap gan ddau aelod o staff ProMo Cymru.
Bydd yr enillydd yn cael gwybod trwy e-bost o fewn un (1) wythnos o ddyddiad cau’r arolwg.
Bydd rhaid i’r enillydd ymateb i’r e-bost yn hysbysu mai nhw yw’r enillydd o fewn pythefnos (2 wythnos) o’i anfon. Os na dderbynnir ateb fewn pythefnos (2 wythnos), bydd y wobr yn cael ei thynnu’n ôl, a bydd enillydd newydd yn cael ei ddewis.
Os na fydd yr enillydd cyntaf yn hawlio’r wobr mewn digon o amser, bydd enillydd newydd yn cael ei ddewis ar hap eto, gan ddefnyddio gweddill y cynigion cymwys. Bydd y broses yma’n parhau nes bydd enillydd yn hawlio’r wobr.
Bydd y wobr yn cael ei threfnu gyda’r enillydd trwy e-bost. Unwaith y caiff ei derbyn, bydd y daleb yn cael ei hanfon yn electronig i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gan yr enillydd.
Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd yr holl gyfranogwyr. Bydd cyfeiriadau e-bost a gasglwyd ar gyfer y gystadleuaeth hon yn cael eu defnyddio at ddiben cysylltu â’r enillydd yn unig. Ni fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti na’u defnyddio ar gyfer unrhyw weithgareddau marchnata neu hyrwyddo eraill.
Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o Ddydd Iau, 20fed Chwefror 2025 tan 23:59 ar ddydd Sul, 9fed Mawrth, 2025. Rhaid derbyn ceisiadau o fewn yr amseroedd yma i fod yn gymwys.
Nid oes angen prynu dim i gymryd rhan nac ennill y gystadleuaeth yma.
Mae’r telerau ac amodau yma yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Trefnir y gystadleuaeth gan ProMo Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gystadleuaeth yma, cysylltwch â info@promo.cymru.
Cedwir pob hawl gan ProMo Cymru i ddiwygio’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg heb roi rhybudd. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar dudalen cystadleuaeth gwefan Meic. Cyfrifoldeb y cyfranogwyr yw gwirio’r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd am unrhyw ddiweddariadau.