x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Pam Bod Pobl Dal Yn Bod Yn Od am y Mislif?

Gad i ni fod yn realistig rŵan. Am rywbeth sydd yn digwydd i bron hanner y boblogaeth, mae’r mislif yn dal i gael ei drin fel ryw gyfrinach gywilyddus.

Dyma flog gwadd gan Athika Ahmed, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o ymgyrch Love Your Period.

Mae’r mwyafrif ohonom yn tyfu i fyny yn clywed pobl yn sibrwd am y mislif gyda sylwadau fel “mae’n adeg honno o’r mis,” “mae arni”, neu’r clasurol, “paid siarad amdano o flaen y bechgyn”. A dyma wraidd y broblem. Pam rydym yn trin y mislif fel rhywbeth sydd angen ei guddio, yna mae’n gwneud pethau’n anoddach i bobl, yn enwedig pobl ifanc, i ddeall cyrff eu hunain ac i ddweud wrth rhywun pan fydd rhywbeth ddim yn iawn.

Diffyg addysg

Nid yn unig yw’r stigma o gwmpas y mislif yn teimlo’n annifyr, mae’n niweidiol hefyd. Mae’n cychwyn o oedran ifanc. Ychydig iawn, iawn o addysg mislif mae llawer o blant yn ei gael yn yr ysgol, os ydynt yn derbyn unrhyw addysg am y pwnc o gwbl.

Yn aml dyw bechgyn ddim yn rhan o’r sgwrs, tra bod merched yn cael cyflwyniad PowerPoint wedi’i ruthro i mewn i 30 munud ac efallai un neu ddau bad am ddim. Ond nid addysg yw hyn. Cyfle wedi’i golli ydyw.

Heb y wybodaeth gywir, mae llawer o bobl ifanc yn meddwl bod poen mawr, gwaedu trwm ofnadwy, neu gylchred afreolaidd yn rhywbeth hollol naturiol gyda’r mislif. Ond nid dyma’r gwir.

Yn aml, mae cyflyrau fel endometriosis a Syndrom Ofarï Polygodennog (PCOS) yn cael eu hanwybyddu neu eu camddiagnosio am flynyddoedd, yn rhannol am ein bod yn dysgu pobl i ddelio gyda’r boen a pheidio gwneud ffwdan.

Os na fydd rhywun yn dweud wrthyt ti beth yw mislif iach, yna sut wyt ti’n fod i wybod pan fydd rhywbeth o’i le?

Teacher talking to a classroom of students

Tlodi mislif

Yna mae gen ti’r broblem o dlodi mislif, sydd prin yn cael ei drafod o gwbl. Mae’n hawdd tybio bod gan bawb fynediad at badiau neu tamponau, ond mae hynny ymhell o’r gwir.

Mae yna bobl yn dy gymuned di, fel myfyrwyr, rhieni sengl ac unigolion heb gartref na all fforddio cynhyrchion mislif syml. Mae rhai yn defnyddio papur toiled, sanau neu gardbord. Mae’n dorcalonnus, ac mae’n digwydd o’n cwmpas. Ond gan nad oes neb eisiau siarad am y mislif, mae’r bobl yma sy’n delio â thlodi mislif yn aml yn dioddef yn dawel.

Urddas mislif

Nid yw hyn yn ymwneud â nwyddau hylendid yn unig. Mae’n ymwneud ag urddas, iechyd a chydraddoldeb. Os ydym wir eisiau cefnogi pobl, mae’n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn siarad am y mislif. Golygai hyn bod angen anghofio am y cywilydd, normaleiddio’r sgwrs, a sicrhau bod pob person ifanc, o ba bynnag rhyw, yn deall sut mae’r mislif yn gweithio a pham eu bod yn bwysig.

Mae angen i ni hefyd bwyso am bolisïau sy’n darparu nwyddau mislif am ddim, neu gost isel, mewn ysgolion, llochesi a mannau cyhoeddus. Mae addysg yn enfawr, ond mae mynediad yr un mor bwysig. Ni ddylai neb orfod dewis rhwng prynu cinio a phrynu bocs tamponau.

Mae’n 2025, ac mae pobl yn dal i fod yn od am y mislif. Ond nid os rhaid iddo fod fel hyn. Beth am i ni gychwyn y sgwrs, dechrau dysgu gwybodaeth go iawn, a bod yno’n gefn i’r bobl sydd ei angen fwyaf.

Cefnogaeth gan Meic

Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Athika Ahmed, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.

Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.

Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.

Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.