x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Y Mislif: Deall y Pethau Sylfaenol

Llun o bump drop pinc a coch fel symbol o'r mislif

Does dim un peth yr un fath i bawb gyda’r mislif. Mae’n gallu bod yn ddryslyd gwybod be sy’n ‘iawn’ ac yn ‘anghywir’ pan mae’n brofiad mor unigryw, ac os ydy dy fislif yn wahanol i rai dy ffrindiau.

Dyma flog gwadd gan Molly Fenton, 23, ymgyrchydd ifanc a sylfaenydd ymgyrch Love Your Period.

Rydym wedi ysgrifennu’r blog yma fel dy fod ti’n gwybod be sy’n normal (a phryd i fynd at feddyg).

Plîs noda nid yw’r blog yma’n gyngor meddygol. Gweithiais gydag elusen ‘Wellbeing of Women’ yn ddiweddar ac mae ganddynt adnodd i wirio dy symptomau.

Dy lif

Gall y mislif bara o 2 i 7 diwrnod, yn ôl y GIG, ond roeddwn i’n cael mislif am 9/10 diwrnod yn fy arddegau! Rydym yn gwybod bod hyn yn amrywio…ac mae dy lif yn gallu newid bob mis hefyd.

Galli di brofi:

  • Mislif ysgafn: Ychydig o waedu, angen pad ysgafn neu leinwyr.Mae hyn yn normal, yn enwedig os wyt ti newydd ddechrau dy fislif.
  • Mislif trwm: Gorfod newid pad neu tampon bob 1-2 awr, angen defnyddio mwy na un math o gynnyrch, neu waedu am fwy na 7 diwrnod. Nid yw mislif trwm yn normal, ond mae’n gyffredin.
  • Sbotio: Ychydig o waed rhwng mislif. Gall hyn ddigwydd oherwydd straen, hormonau, cychwyn dull atal-genhedlu, neu resymau arall.

Os yw dy fislif yn newid neu’n teimlo’n anodd ei reoli, mae’n syniad da siarad gyda nyrs neu dy feddyg teulu. Mae mislif trwm, clotiau gwaed sy’n fwy na darn dwy geiniog, neu dy fislif yn stopio’n gyfan gwbl yn bethau pwysig i gadw llygad allan amdanynt.

Ap i dracio'r mislif ar ffôn

Pa mor rheolaidd dylai’r mislif fod?

Gall dy gylchred mislif fod rhwng 21 a 35 diwrnod, ond nid yw bob amser wedi’i amseru’n berffaith. Yn enwedig pan fyddi di newydd ddechrau dy fislif!

Efallai bydd dy gylchred mislif yn:

  • Dod yn gynt neu’n hwyrach bob mis
  • Yn cael ei effeithio gan straen, iechyd, ymarfer corff neu newidiadau yn dy bwysau
  • Newid gyda dulliau atal-genhedlu neu gyflwr meddygol

Nid yw mislif sydd ddim yn rheolaidd yn broblem, ond mae’n werth estyn allan am gymorth os:

  • Ti ddim yn cael mislif am 3 mis neu fwy (os nad wyt ti’n feichiog)
  • Nid yw dy fislif yn rheolaidd o gwbl
  • Ti’n poeni bod rhywbeth ddim yn teimlo’n iawn

Cofia mai TI yw’r arbenigwr ar dy gorff di!

Calendr traddodiadol i dracio'r mislif

Pa liw dylai’r mislif fod?

Mae gwaed mislif yn gallu amrywio mewn lliw, yn dibynnu ar y diwrnod a’r llif:

  • Coch llachar: Gwaedu normal, ffres
  • Coch tywyll neu frown: Cyffredin ar gychwyn neu ddiwedd y mislif, pan mae’r gwaed yn hŷn
  • Pinc: Gwaedu ysgafn neu sbotio
  • Llwyd neu golau iawn (neu unrhyw liw anarferol): Gall hyn fod yn arwydd o haint. Siarada gyda meddyg neu nyrs

Mae’n bwysig talu sylw i’r newidiadau yn y lliw, ond fel arfer, nid oes dim byd i boeni amdano.

Gwybod beth sy’n normal i ti

Mae tracio dy fislif yn gallu helpu ti ddeall be sy’n normal i dy gorff. Galli di dracio dy fislif gyda apiau ar dy ffôn, llyfr nodiadau neu adnoddau ar-lein.

Gwna nodyn o:

  • Dyddiad cychwyn a gorffen
  • Llif (ysgafn/canolig/trwm)
  • Unrhyw boenau, newid yn dy hwyliau, neu symptomau anarferol

Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, estyn allan am gymorth. Cofia: ti’n ‘nabod dy gorff yn well na neb!

Cefnogaeth gan Meic

Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Molly Fenton, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.

Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.

Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.

Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.