x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Deall y Gwahaniaeth Rhwng PMS a PMDD

Efallai dy fod di wedi clywed am PMS (Syndrom Cyn-mislif), ond wyt ti wedi clywed am PMDD (Anhwylder Dysfforig Cyn-mislif)?

Dyma flog gwadd gan Athika Ahmed, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o ymgyrch Love Your Period.

Os wyt ti’n cael mislif, yna mae’n debyg dy fod di wedi profi rhyw fath o ryfeddod corfforol neu emosiynol cyn i ti ddechrau gwaedu. Fel arfer, gelwir hyn yn PMS (Syndrom Cyn-mislif) ac mae’n cael ei dderbyn fel rhan naturiol o’r broses fislifol.

Ond weithiau mae’r symptomau yma’n llawer gwaeth na theimlo ychydig yn grac neu’n chwyddedig. Os yw’n dechrau ymyrryd ar dy fywyd bob dydd, efallai nad PMS ydyw mewn gwirionedd. Mae cyflwr llai adnabyddus, anoddach, gelwir yn PMDD (Anhwylder Dysfforig Cyn-mislif) sydd ddim yn cael ei drafod digon, ond mae gwir angen gwneud!

Beth yw PMS?

Mae PMS fel arfer yn golygu pethau fel newidiadau mewn hwyliau, teimlo’n flinedig, chwyddedig, yn bigog, neu fronnau poenus. Mae’r pethau yma’n tueddu i ddigwydd wythnos neu ddwy cyn y mislif ac fel arfer maent yn tawelu unwaith i’r gwaedu gychwyn.

Ydy, mae PMS yn ddiflas, ond mae’n hawdd ei reoli i’r mwyafrif. Gall newid diet, cael rhywfaint o ymarfer corff, neu ofalu am dy hun helpu. Fel arfer nid yw’n difetha dy fywyd bob dydd yn llwyr.

Girl with a headache on her period

Ond yna mae gen ti PMDD

Gall PMDD gael llawer o’r un symptomau corfforol â PMS, a all fod yn ofnadwy, ond mae’r pethau emosiynol ar lefel hollol wahanol. Mae pobl â PMDD yn delio â phethau fel newidiadau hwyliau difrifol, pryder dwfn, iselder, yn bigog, neu deimlo anobaith.

Nid annifyr yn unig yw’r teimladau yma. Mae mynd i’r gwaith, yr ysgol, neu fod yng nghwmni pobl yn gallu bod yn anodd iawn. Y peth gwallgof yw bod y symptomau yma fel arfer yn diflannu pan fydd y mislif yn dechrau, sy’n gwneud i’r cyfan deimlo’n ddryslyd ac yn rhwystredig iawn.

Girl in bed with a temperature on her period

Beth sy’n achosi PMDD?

Does neb yn gwybod yn union pam fod PMDD yn digwydd, ond mae gwyddonwyr yn credu ei fod yn ymwneud â sut mae’r ymennydd yn ymateb i’r newidiadau hormonaidd arferol yn ystod y cylchred. Nid yw’n ymwneud â chael gormod neu dim digon o hormon; mae’n debycach i’r ffaith bod yr ymennydd ychydig yn fwy sensitif i’r newidiadau yma.

Sut wyt ti’n gwybod pa un sydd gen ti?

Os wyt ti’n credu bod dy symptomau’n llawer gwaeth na PMS rheolaidd, ceisia eu tracio am gwpl o fisoedd. Ysgrifenna pryd maen nhw’n dechrau, pa mor hir maen nhw’n para, a pha mor ddwys ydynt.

Os yw’r symptomau yma’n taro’n galed bob tro cyn dy fislif ac yn cael effaith difrifol ar dy hwyliau neu fywyd, mae’n syniad da siarad â meddyg am y peth.

Mae PMS a PMDD yn real, ond yn bendant nid ydynt yr un peth. Os yw dy symptomau’n ddwys ac yn niweidio dy fywyd, paid â’u hanwybyddu. Ti sy’n adnabod dy gorff orau, ac rwyt ti’n haeddu help, nid rhywun yn dweud dy fod di’n gorymateb.

Pain rating scale

Cefnogaeth gan Meic

Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Athika Ahmed, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.

Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.

Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.

Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.