Dewis y Nwyddau Mislif Gorau i Ti

Gall dewis y nwyddau mislif cywir fod yn anodd weithiau, yn enwedig pan mae gen ti gymaint o opsiynau! Dyma sut i ddewis pa nwyddau mislif fydd orau i ti.
Dyma flog gwadd gan Freya Curtis a Molly Fenton, ymgyrchwyr ifanc sy’n rhan o ymgyrch Love Your Period.
Pa un ai wyt ti’n chwilio am rywbeth sy’n teimlo’n gyfforddus, yn gyfleus, neu’n gynaliadwy, mae yna rywbeth i bawb. Dyma ganllaw syml i helpu ti i ddewis yr hyn sydd orau i ti.
Pad (rhai tafladwy a rhai ailddefnyddiadwy)
Pads tafladwy yw un o’r nwyddau mislif mwyaf cyffredin. Maent yn dod mewn gwahanol siapiau a meintiau, gyda neu heb adenydd, ac yn cael eu gwisgo i mewn yn dy ddillad isaf. Mae pantyliner yn opsiwn ysgafnach, yn wych ar gyfer cychwyn neu ddiwedd dy fislif.
Mae padiau ailddefnyddiadwy yn gweithio yn yr un ffordd ond gellir eu golchi, felly mae’n opsiwn mwy ecogyfeillgar a chost-effeithiol. Rinsio, golchi ac ailddefnyddio!
Tamponau
Mae tamponau yn cael eu gwisgo y tu mewn i’r fagina i amsugno gwaed. Gall gymryd ychydig o amser i ddod i arfer i’w defnyddio, ond mae yna lawer o adnoddau defnyddiol i helpu. Maent yn wych os wyt ti eisiau nofio neu wneud chwaraeon heb boeni am waed yn dangos. Dylid newid tampon bob 4 i 8 awr.
Dyma ychydig o wybodaeth am sut i ddefnyddio tampon.
Cwpan a Disg Mislif
Os wyt ti’n chwilio am opsiwn y gellir ei ailddefnyddio ac sy’n gallu cael ei wisgo drwy’r dydd, yna gall cwpan neu ddisg mislif fod yn opsiwn.
Mae cwpan mislif yn gwpan meddal, hyblyg sy’n eistedd y tu mewn i’r fagina ac yn casglu gwaed. Gellir ei wisgo am hyd at 12 awr ac mae’n dod sawl maint gwahanol.
Mae disg mislif yn eistedd yn uwch yn y fagina, ger ceg y groth, a gall hefyd ddal llawer o waed. Mae rhai pobl hyd yn oed yn eu defnyddio yn ystod rhyw.
Mae’r ddau opsiwn yn gynaliadwy ac yn dod yn fwy cyfforddus wrth i ti ddod i arfer eu defnyddio. Yn aml mae’n cymryd ychydig o gylchoedd i addasu. Gwisga bad hefyd ar y cychwyn i ddal unrhyw ollyngiadau nes i ti ddod i arfer.
Dyma rywfaint o wybodaeth am sut i ddefnyddio cwpan mislif.
Sut i ddefnyddio cwpan mislif gan Boots.
Dillad isaf Mislif
Mae dillad isaf mislif yn gallu cael eu hailddefnyddio ac yn edrych ac yn teimlo fel dillad isaf normal, ond mae ganddynt haenau adeiledig sy’n amsugno gwaed. Maent yn wych ar eu pen eu hunain neu i wisgo gyda nwyddau eraill. Rinsio a golchi ar ôl defnyddio!
Sicrha dy fod di’n golchi’r dilledyn cyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf er mwyn actifadu’r defnydd i ddal y mislif yn effeithlon.
Dewis beth sydd orau
Mae mislif pawb yn wahanol. Efallai bod gwell gen ti un peth, neu’n hoffi amrywio yn dibynnu ar:
- Y llif (diwrnodau trwm neu ysgafn)
- Gweithgareddau (fel chwaraeon neu nofio)
- Yr hyn sy’n teimlo fwyaf cyfforddus i ti
Archwilia beth sy’n teimlo orau i dy gorff di. Cofia, nid oes ffordd gywir nac anghywir o reoli dy fislif.
Cefnogaeth gan Meic
Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Freyia Curtis a Molly Fenton, ymgyrchwyr ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.
Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.
Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.
Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.
