x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Deall Tlodi Mislif

Llun o pads a tampons ar gefndir coch

Mae Tlodi Mislif yn broblem sy’n effeithio nifer o bobl ym Mhrydain, yn enwedig pobl ifanc. Mae’n golygu peidio gallu fforddio nwyddau mislif, rheoli mislif gyda hylendid, a chael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth am y mislif. Mae’r blog yma’n rhoi gwybodaeth am dlodi mislif a rhai o’r achosion yn ogystal ag adnoddau os wyt ti’n gwynebu tlodi mislif.

Beth yw tlodi mislif?

Mae tlodi mislif yn fwy na pheidio gallu fforddio nwyddau mislif, mae’n cynnwys ffactorau ehangach sy’n atal pobl rhag rheoli eu mislif gydag urddas. Mae’r rhain yn cynnwys diffyg addysg am y mislif, diffyg cyfleusterau glan a stigma am y mislif. Yn y DU, amcangyfrifir na all un o bob deg o bobl ifanc fforddio cynhyrchion mislif.

Darlun o ferch yn tracio ei mislif ar galendr

Effaith ar bobl ifanc

 Dyma rai o’r ffyrdd allweddol mae tlodi mislif yn cael eu heffeithio gan dlodi mislif:

  • Addysg: Mae diffyg mynediad at nwyddau mislif yn gallu gorfodi pobl i fethu ysgol yn ystod eu mislif, sy’n creu bylchau yn eu haddysg sy’n gallu effeithio eu perfformiad yn yr ysgol.
  • Iechyd Meddwl: Mae’r stigma o gwmpas y mislif yn gallu gwneud i bobl deimlo embaras, pryder a hunanhyder isel, sy’n gallu cael effaith ar eu hiechyd meddwl.
  • Iechyd Corfforol: Mae defnyddio nwyddau mislif anaddas yn gallu achosi problemau iechyd fel heintiau neu gymhlethdodau eraill.

Beth sydd yn achosi tlodi mislif?

Mae deall beth sy’n achosi tlodi mislif yn bwysig i ddatrys y broblem yn effeithiol Mae nifer o ffactorau yn cyfrannu at dlodi mislif ymysg pobl ifanc ym Mhrydain:

  • Anghydraddoldeb economaidd: Nid yw pawb yn gallu fforddio prynu nwyddau mislif yn rheolaidd.
  • Addysg: Mae diffyg addysg am y mislif yn creu anwybodaeth am lendid mislif a phwysigrwydd defnyddio nwyddau addas.
  • Stigma: Mae stigma am y mislif yn rhwystr rhag trafod a delio gyda thlodi mislif yn agored.
Darlun o bump drop pinc gyda gwaed

Os wyt ti eisiau helpu

Dyma rai ffyrdd galli di helpu:

  • Ymgyrch rhoddion: Trefnu ymgyrch i gasglu a dosbarthu nwyddau mislif i bobl mewn angen.
  • Grwpiau cefnogaeth: Creu grwpiau cefnogaeth i bobl drafod y mislif yn agored a chael cymorth a chefnogaeth.
  • Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth: Creu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am dlodi mislif ac annog pobl ifanc eraill i ymuno.

Cefnogaeth sydd ar gael i ti

  • Mae nifer o lefydd fel ysgolion, colegau a hybiau cymunedol yn cynnig nwyddau mislif am ddim. Mae nifer o gynghorau lleol yn cynnig nwyddau mislif am ddim hefyd, ac mae rhai yn cynnig gwasanaeth archebu ar-lein drwy bartneriaethau fel Hey Girls sy’n postio i dy gartref. Edrycha ar wefan dy gyngor lleol am fwy o wybodaeth.
  • Edrycha ar ap neu wefan Pick Up My Period i weld ble sy’n darparu nwyddau am ddim yn dy ardal.
  • Mae gwybodaeth ac adnoddau i ddysgu am y mislif. Mae gwefan Mislif Fi gan GIG Cymru yn llawn adnoddau a gwybodaeth gan arbenigwyr meddygol. Mae ymgyrch Love Your Period wedi’i arwain gan grŵp o ymgyrchwyr ifanc o Gymru sy’n annog trafodaethau agored am y mislif ac iechyd merched.

Mae tlodi mislif yn broblem sy’n effeithio ar nifer o bobl ifanc ym Mhrydain. Drwy ddeall yr achosion, effaith a’r datrysiadau, rydym yn gallu torri’r stigma a sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at nwyddau ac addysg hanfodol. Os hoffet ti fwy o gefnogaeth, siarada gyda Meic. Rydym yn rhedeg llinell gymorth cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth yng Nghymru. Galli di gael cefnogaeth yn ddienw dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.