x
Cuddio'r dudalen

Adnoddau Ysgol a Gwersi

Sut Mae Instagram Yn Twyllo Realiti

Nod yr adnodd yma ydy bod pobl ifanc efo dealltwriaeth well o’r hyn sydd yn wir neu beidio ar gyfryngau cymdeithasol ac i adnabod y gwahaniaeth rhwng ‘bywyd go iawn’ a ‘bywyd cyfryngau cymdeithasol’. Mae’r adnodd yma wedi ei anelu at rai 11-18 oed ac mae’n addas i’w ddefnyddio mewn sesiynau dosbarth cofrestru, neu wasanaethau ysgol.


Tynnu Coes, neu Bwlio? 

Yn y wers hon byddem yn gwylio 3 fideo, yn dangos un digwyddiad sydyn rhwng tri ffrind wrth iddynt gerdded i’r ysgol. Rydym yn gweld yr un digwyddiad  o safbwynt pob person unigol er mwyn meddwl sut roedd bob un ohonynt yn teimlo, a beth allan nhw wedi’i wneud yn wahanol. Byddem yn ystyried y gwahaniaeth rhwng tynnu coes a bwlio, yn meddwl am y rhan sydd gan bawb i’w chwarae i stopio bwlio a dysgu ble i gael cymorth, cyngor a chefnogaeth.


Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 

Cefnogwch Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyda’r adnodd dysgu 20 munud yma, sydd yn berffaith ar gyfer sesiynau cofrestru neu wasanaethau dosbarth.  


Nid Stori Tylwyth Teg yw Bywyd: Caniatâd yw Popeth 

Mae ‘Na’ yn golygu ‘na’, ac nid yw absenoldeb ‘na’ yn golygu ‘ie’! Dyna’r neges rydyn ni am ei rhannu gyda’n fideos parodi ‘Nid stori tylwyth teg yw bywyd’. Ein nod yw anfon neges gref am gydsyniad rhywiol. 


Ydy fy Mherthynas yn Normal? (gelwir hefyd yn Pili-pala)

Adnodd sy’n yn cynnwys fideo ar gyfer pobl ifanc 13-18 oed. Gellir ei ddefnyddio fel rhan o drafodaeth ynghylch ymddygiad perthynas iach.


Diogelwch Ar-lein

Adnodd fideo sy’n addas i ddechrau trafodaeth am ddiogelwch ar-lein gyda phlant 7 i 11 oed. Cafodd ei greu gyda Llywodraeth Cymru a SchoolBeat. 


Manylion Meic Cymru

Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.