Siarad Gyda’r Meddyg am y Mislif a Materion Personol Eraill

Gall mynd at y meddyg fod yn brofiad eithaf brawychus, ond nid yw’n gorfod bod. Dyma ychydig o gyngor fydd yn helpu ti i gychwyn sgwrs am dy fislif gyda’r meddyg.
Dyma flog gwadd gan Emily Handstock, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o ymgyrch Love Your Period. Mae Emily yn eiriolwr endometriosis sydd â phrofiad personol ohono.
Delio gyda chywilydd
Er bod cymdeithas yn rhannu’n fwy agored na ddylem deimlo cywilydd am y mislif, mae llawer ohonom yn dal i deimlo fel hyn. Nid yw’n rhywbeth fedri di ‘ddod drosto’ yn sydyn. Pe bai mor hawdd â hynny, yna byddem wedi gwneud eisoes.
Fel rhywun sydd wedi gorfod trafod llawer o faterion personol gyda sawl gweithiwr meddygol proffesiynol, o fislif poenus i fethu â rheoli pipi i ryw, mae gen i dipyn o awgrymiadau da fydd yn gwneud hyn yn haws i ti.
Eirioli dros dy hun
Efallai dy fod di wedi clywed ar gyfryngau cymdeithasol am brofiadau pobl eraill, yn teimlo fel bod y meddyg neu weithiwr meddygol wedi eu diystyru gan arwain iddynt deimlo eu bod yn cael eu trin yn israddol neu’n nawddoglyd.
Hoffwn fedru dweud nad dyma’r profiad fyddi di’n ei gael, ond ti sydd yn adnabod dy gorff orau, ac os wyt ti’n teimlo bod rhywbeth o’i le, dalia ati i ddweud wrthynt.
Tracio symptomau
Os wyt ti’n dechrau sylwi bod yna broblem, fel mislif mor boenus fel na fedri fyw dy fywyd o ddydd i ddydd, neu broblemau gydag methu rheoli pipi, yna cofnoda hyn y gorau medri di gyda chymaint o fanylion â phosib.
Gallet ti brynu dyddiadur tracio symptomau, neu defnyddia rhywbeth syml fel yr app nodiadau ar dy ffôn.
Cofnoda’r lefelau poen, y feddyginiaeth rwyt ti’n cymryd i ddelio â hyn, a sut mae’r mater yn cael effaith ar dy fywyd o ddydd i ddydd. Mae hyn i gyd yn hynod ddefnyddiol i ti a dy feddyg. Os wyt ti’n rhywun sy’n mynd yn nerfus yn sgwrsio fel hyn, gall y data siarad ar dy ran, a helpu ti i brofi’r broblem.
Cael cefnogaeth mewn apwyntiadau
Os wyt ti’n dal i deimlo’n anesmwyth am fynychu apwyntiad ar ben dy hun, cer â rhiant neu warcheidwad gyda thi. Cyn belled â’i fod yn rhywun gallet ti ymddiried ynddynt fydd yn gallu helpu i eirioli ar dy ran.
Gall ceisio manylu popeth i’r meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol, yn yr amser prin rwyt ti’n ei gael, deimlo’n straen. Gall y person ychwanegol yma roi cefnogaeth a strwythur os wyt ti’n teimlo fel nad wyt ti’n cael yr atebion neu’n mynd yn ddryslyd.
Yn bwysicaf oll, mae gweithwyr meddygol proffesiynol yma i helpu, ond ti yw’r un sydd yn adnabod dy gorff orau. Os wyt ti’n credu bod gen ti broblem benodol, yna dweud wrthynt. Nid oes angen teimlo cywilydd mynd atynt gyda syniad am y cyflwr rwyt ti’n teimlo sy’n cyd-fynd â dy symptomau. Mewn rhai achosion, gall fod yn ddefnyddiol iddynt ddeall yr hyn ti’n ceisio dweud sy’n digwydd i dy gorff dy hun. Yna gallant helpu gyda’u gwybodaeth feddygol i greu cynllun ar gyfer y dyfodol.
Ti ddim ar ben dy hun
Ta waeth faint o gywilydd rwyt ti’n teimlo, ni ddylai neb orfod dioddef yn dawel gydag unrhyw gyflwr. Mae’r GIG yma i helpu, a fedri di ddod o hyd i gefnogaeth ar-lein gyda grwpiau fel Love Your Period i wneud i ti deimlo’n llai unig.
Cefnogaeth gan Meic
Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Emily Handstock, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.
Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.
Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.
Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.
