Torri’r Stigma o Gael Rhyw ar dy Fislif

Os wyt ti newydd ddechrau cael rhyw, yn meddwl am y peth, neu yn chwilfrydig, mae’n normal i gwestiynu sut fydd dy fislif yn effeithio pethau. Ac mae’n rhaid i ni siarad am y peth.
Dyma flog gwadd gan Molly Fenton, 23, ymgyrchydd ifanc a sylfaenydd ymgyrch Love Your Period.
Torri’r stigma
Mae’r mislif a rhyw yn gallu bod yn bynciau lletchwith a dryslyd, sy’n ddealladwy! Mae’r ddau bwnc wedi’u hamgylchynu gan gymaint o stigma sydd wedi bodoli ers amser maith.
Pwrpas y blog yma yw torri’r stigma mewn ffordd sydd yn ateb dy gwestiynau a goresgyn rhywfaint o gywilydd trwy roi’r wybodaeth sydd ei angen arnat ti.
Wyt ti’n gallu cael rhyw yn ystod dy fislif?
Wyt! Mae’n ddewis personol, ac mae’n hollol iawn i ddweud ie neu na yn dibynnu ar beth sy’n teimlo’n iawn i ti.
I rai pobl, mae rhyw yn ystod eu mislif yn gallu lleihau crampiau a gwella eu hwyliau oherwydd bod endorffinau yn cael eu rhyddhau! Rhain yw dy hormonau hapus.
Bydd pobl eraill yn teimlo’n anghyfforddus, yn frwnt neu dim awydd. Mae hynny’n iawn hefyd.
Mae siarad yn bwysig. Boed hynny’n dysgu dy ffiniau, mynd ati’n araf a cyfathrebu, neu roi gwybod i dy bartner dy fod am aros nes bod dy fislif drosodd.
Cofia fod cydsyniad yn allweddol. Dylai dy bartner barchu dy ddewis bob amser. P’un a ydych am gael rhyw ai peidio, yn ystod neu oddi ar dy fislif.
Ydy cael rhyw ar dy fislif yn newid unrhyw beth?
Dydi cael rhyw ar dy fislif ddim yn newid dy gorff, ond mae ‘na rai pethau i’w hystyried.
Mae defnyddio dull atal cenhedlu dal yn bwysig. Ti dal yn gallu beichiogi (mae’n fyth cyffredin na alli di) a chael haint a drosglwyddir yn rhywiol.
Mae hylendid yn bwysig. Defnyddia dyweli, a golchi cyn ac ar ôl. Mae’n syniad da trafod beth rydych chi’n gyfforddus ag ef ymlaen llaw.
Bydda’n ymwybodol o heintiau fel Syndrom Sioc Gwenwynig. Os wyt ti’n defnyddio tampons neu gwpan mislif, gwna’n siŵr dy fod yn ei dynnu cyn cael rhyw.
Dy gorff di ydy o!
P’un a wyt ti’n teimlo’n hyderus, yn chwilfrydig, yn chwithig, neu’n gwbl ddi-ddiddordeb, mae dy deimladau’n ddilys. Y peth pwysicaf yw gwybod y ffeithiau, ymddiried yn dy reddf, a pheidio byth â gwneud unrhyw beth nad wyt ti’n 100% yn gyfforddus ag o.
Cefnogaeth gan Meic
Mae hwn yn flog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Molly Fenton, ymgyrchydd ifanc sy’n rhan o’r Ymgyrch Love Your Period. Darllena fwy o flogiau’r ymgyrch.
Mae Meic eisiau mwyhau lleisiau pobl ifanc ledled Cymru, gan ddefnyddio ein llwyfan i gyd-gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n adlewyrchu eu profiadau ac yn helpu i annog newid positif. Dyna pam rydym yn gweithio â Love Your Period i greu ein hymgyrch ‘Caru Dy Fislif’.
Nod yr ymgyrch Love Your Period yw rhoi diwedd ar dlodi mislif wrth sicrhau mynediad am ddim i gynnyrch mislif ac i frwydro yn erbyn stigma mislif gyda gwell addysg a sgyrsiau agored. Mae’n ymdrechu i droi’r mislif yn bwnc normal, derbyniol, gan sicrhau bod gan bawb urddas a chefnogaeth yn ystod eu mislif.
Wyt ti wedi cael dy effeithio gan unrhyw beth rwyt ti wedi’i ddarllen yn y blog yma? Cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic. Mae Meic yno i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.
