Deall y Mislif: Dy Ganllaw Defnyddiol

Mae’r mislif yn rhan naturiol o fywyd i bobl gyda groth, ond maent yn gallu edrych ac effeithio ar bawb yn wahanol. Dyma ganllaw i helpu ti ddeall y mislif.
Beth yw’r mislif?
Bob mis, mae dy gorff yn paratoi am feichiogrwydd. Mae hormonau yn gwneud leinin y groth yn fwy trwchus, gan greu amgylchedd sy’n llawn maeth ac yn barod ar gyfer wy wedi’i ffrwythloni.
Os nad yw’r wy’n cael ei ffrwythloni, does dim angen y leinin, felly mae’n torri i lawr. Dyma beth yw’r mislif, cymysgedd o’r leinin a gwaed.
Mae fel arfer yn para rhwng tri a saith diwrnod, ond mae hyn yn gallu amrywio i bawb.
Dechrau’r mislif
Mae’r glasoed yn achosi llawer o newidiadau, ac mae cychwyn y mislif yn newid mawr. Mae’n gallu bod yn gyffrous, neu’n ddryslyd, neu ychydig o’r ddau. Yn ystod y glasoed mae lefelau dy hormonau yn newid, sy’n gallu achosi dy fislif i newid. Mae hyn yn hollol normal ac mae’n dod yn fwy rheolaidd gydag amser fel arfer.
Yn ystod y glasoed, efallai byddi di’n sylwi ar newidiadau eraill hefyd, fel dy fronnau’n datblygu, tyfu gwallt mewn llefydd newydd a dy groen yn newid.
Mae’r mislif yn wahanol i bawb
Mae’n bwysig deall nad yw’r mislif yr un peth i bawb. Mae rhai pobl yn cael mislif ysgafn, ac mae eraill yn cael mislif trwm.
Efallai bydd rhai yn cael cylchred byr, ac eraill yn cael rhai hirach. Mae cylchred arferol yn 28 diwrnod, ond mae unrhyw beth rhwng 21 a 25 diwrnod yn cael ei ystyried yn normal.
Gall poen stumog, newid yn dy hwyliau a symptomau eraill fel Syndrom Cyn Mislif yn gallu amrywio hefyd. Mae Syndrom Cyn Mislif (PMS) yn cynnwys pethau fel dy hwyliau yn newid yn sydyn, dy stumog yn chwyddo a phoen pen.
Cynnyrch mislif
Mae nifer o fathau gwahanol o gynnyrch mislif ar gael, ac mae’n bwysig defnyddio’r rhai sydd yn gweithio orau i ti.
Mae padiau yn cael eu rhoi yn dy nicyrs i amsugno’r gwaed ac mae tampon yn cael ei roi yn y fagina i amsugno’r gwaed ac rhaid newid tampon bob 4-8 awr. Galli di ddefnyddio cynnyrch ailddefnyddiadwy hefyd fel cwpannau mislif sydd yn casglu gwaed a nicyrs mislif sydd yn amsugno’r gwaed.
Mae’n bwysig darllen y cyfarwyddiadau ar y pecyn cyn eu defnyddio.
Rheoli dy fislif
Mae nifer o ffyrdd gwahanol i reoli dy fislif, ac mae’n bwysig dod o hyd i’r ffordd sy’n gweithio orau i ti.
Bydd rhai pobl yn hoffi gwneud ymarfer corff ysgafn neu ddefnyddio poteli dŵr poeth i helpu gyda phoenau. Mae tabledi atal poen fel paracetamol yn gallu bod yn effeithiol hefyd.
Galli di dracio dy fislif gyda chalendr neu ap arbennig. Maent yn ddefnyddiol i wybod pryd mae’r mislif nesaf yn dod a rhoi amser i ti baratoi.
Mae cadw glendid da yn bwysig, fel newid pad neu tampon yn rheolaidd a golchi dy ddwylo.
Pryd i ofyn am help
Er bod y mislif yn normal, gall rhai symptomau olygu ei bod yn werth gofyn am gyngor gan feddyg.
Mae’r rhain yn cynnwys gwaedu’n drwm iawn (angen newid pad neu tampon bob awr), poen drwg sy’n amharu ar dy fywyd bob dydd, mislif sydd ddim yn rheolaidd, neu waedu rhwng mislif. Mae’n bwysig siarad gyda meddyg os wyt ti’n poeni. Maen nhw yno i helpu ti ddeall dy gorff a chadw’n iach.
