x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Sut i Gefnogi Ffrind yn Ystod Ramadan

Tri ffrind yn bwyta gyda'i gilydd yn ystod Ramadan

Eleni, mae Ramadan yn cychwyn ar yr 28ain o Chwefror. Bydd miliynau o Fwslemiaid ar draws y byd yn dathlu drwy ymprydio, canolbwyntio ar wneud pethau da, dangos diolchgarwch a gweddïo. Bydd y blog yma yn rhoi mwy o wybodaeth i ti am Ramadan a syniadau am sut i gefnogi eraill yn ystod y mis.

Beth yw Ramadan?

Mae Ramadan yn fis sanctaidd yn y calendr Islamaidd. Mae’n para am tua 29 i 30 diwrnod ac mae’r union ddyddiadau yn newid bob blwyddyn oherwydd bod Islam yn dilyn calendr y lleuad. Mae ymprydio yn un o Bum Piler Islam, sef canllaw i Fwslemiaid ar sut i fyw eu bywydau.

Mae Ramadan yn amser i adlewyrchu a gwella dy hun, ac mae nifer yn trio torri arferion drwg yn ystod y mis. Arfer arall yn ystod Ramadan yw trio darllen bob un o’r 30 pennod yn y Quran (llyfr sanctaidd Islam), fel arfer un bennod bob dydd.

Ar ddiwedd Ramadan, mae Mwslemiaid yn dathlu Eid al-Fitr. Mae’n nodi diwedd yr ymprydio ac mae pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu, gweddïo a bwyta. Mae nifer yn rhoi i elusennau yn ystod Eid, Zakut-ul-Fitr yw’r enw am hyn.

Ymprydio yn ystod Ramadan

Efallai dy fod yn gwybod am ymprydio yn ystod Ramadan. Mae hyn yn golygu nad yw Mwslemiaid yn bwyta nac yfed rhwng pan mae’r haul yn codi yn y bore i pan mae’r haul yn machlud yn y nos. Suhoor yw’r enw’r pryd cyn i’r haul codi ac Iftar yw’r enw am y pryd yn y nos. Mae ymprydio yn galluogi Mwslemiaid i ganolbwyntio ar eu ffydd, dysgu hunanddisgyblaeth ac yn eu hatgoffa o ddioddefaint y tlawd.

Nid oes rhaid i bawb ymprydio. Mae merched beichiog, pobl hŷn a phlant ifanc yn cael eu hesgusodi. Bydd nifer o Fwslemiaid ifanc yn dechrau ymprydio yn eu harddegau cynnar felly efallai bod rhywun ti’n nabod yn ymprydio am y tro cyntaf.

Merch ifanc yn gwisgo hijab ac yn eistedd ar fat gweddi yn ystod Ramadan

Sut i gefnogi ffrind

Mae Ramadan yn amser cyffrous a phwysig, ond gall fod yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol hefyd. Dyma rai syniadau syml o sut  gallet ti gefnogi ffrind yn ystod Ramadan:

  • Bydd yn ystyriol pan ti’n cynllunio rhywbeth: Os wyt ti’n trefnu rhywbeth, trïa wneud pethau cyn gynt yn y dydd ar ôl eu pryd yn y bore neu ar ôl eu pryd yn y nos. Trïa beidio trefnu gweithgareddau sy’n ymwneud â bwyd.
  • Siarada gyda nhw: Gofynna sut mae’n mynd. Mae hyn yn dangos dy fod yn meddwl amdanyn nhw ac yn dangos cefnogaeth.
  • Ni fydd pawb yn dathlu Ramadan yn yr un ffordd: Mae nifer o resymau pam bod rhai pobl ddim yn ymprydio. Gall fod am resymau meddygol neu bersonol.
  • Dangos chwilfrydedd: Paid â bod ofn gofyn cwestiynau. Paid â rhoi dy farn neu ddweud dy fod yn teimlo drostyn nhw. Gad iddyn nhw esbonio beth mae Ramadan yn ei olygu iddyn nhw.
  • Helpu gydag achos da: Mae nifer yn rhoi i elusen, mae rhai yn dweud fod gwneud pethau da yn cael ei luosi gyda 70 yn ystod Ramadan. Gallet ti gyfrannu at achos da neu wirfoddoli gyda ffrind.
  • Bydd yn ystyriol: Efallai bydd dy ffrind angen amser i weddïo neu ddarllen y Quran felly rho amser iddyn nhw. Efallai bydd eu lefelau egni yn isel felly gad iddynt ymlacio a chymryd seibiant os oes angen.

Os bydd dy ffrind yn stryglo, anoga nhw i estyn allan am help. Gallent siarad gydag aelod o’u teulu, pobl eraill yn eu cymuned grefyddol neu help proffesiynol. Mae llinell gymorth Meic yma i wrando ac rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth eiriolaeth am ddim.