x
Cuddio'r dudalen

Yn dy ardal di

Mae'r adran yma yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau eirioli lleol a chenedlaethol ledled Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae posib dod o hyd i wasanaeth wrth ddewis ardal ar y map neu o'r rhestr enwau siroedd ar y dde. Bydd manylion yr holl wasanaethau sy'n gweithredu yn yr ardal honno yn cael eu harddangos, gan gynnwys sefydliadau lleol a chenedlaethol.

Eiriolaeth yw prif swyddogaeth y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn yr adran hon. Nid yw gwasanaethau sydd efallai'n cynnwys ychydig o eiriolaeth sylfaenol fel rhan o rôl arall wedi'u cynnwys. Mae ystod oedran a meini prawf cymhwyster yn amrywio'n sylweddol rhwng sefydliadau, felly mae angen bod yn ymwybodol o'r rhain os wyt ti'n ceisio gwneud cyfeiriad ar ran plentyn neu berson ifanc. Os wyt ti'n ymwybodol o unrhyw newidiadau mewn gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd, neu os bydd gen ti wybodaeth am unrhyw wasanaethau newydd i'w hychwanegu at ein cronfa ddata neu unrhyw adborth arall, cysyllta â ni yma.