x
Cuddio'r dudalen

Wedi clywed am oriau agor newydd Meic?

Meic yw’r llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth genedlaethol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru (yn cynnwys ti!).

Yn ddiweddar, fe gawsom ni arian i barhau gyda’r llinell nes 2018 (HWRÊ!), ond bydd newidiadau mân i’r gwasanaeth o 1af Ebrill 2016.

Dydyn ni ddim yn derbyn cymaint o alwadau yn y nos, felly bydd y llinell nawr ar agor o 8 y bore hyd ganol nos (08:00 – 00:00).

Os wyt ti dal angen siarad, paid gofidio – os wyt ti’n trio cysylltu â ni tu allan i’r oriau yma, fe gei di’r opsiwn i gael dy gysylltu i sefydliadau defnyddiol.
Rydyn ni’n gweithio gyda pobl ifanc 0 – 25 oed. Gallwch sgwrsio ar y ffôn (080880 23456), testun (84001), neu IM.

Meic – rhywun ar dy ochr di.