x
Cuddio'r dudalen

Iselder

Ysgrifennwyd yr astudiaeth achos yma gan berson ifanc, i bobl ifanc sy’n teimlo bod pethau’n anoddach ar hyn o bryd.

“Eistedd mewn caffi yn disgwyl i’m nghariad orffen yn y gwaith er mwyn i ni gael mynd i weld nain yn yr ysbyty.

Newydd weld Instagram gan @meic.cymru, sefydliad i bobl ifanc i alw a sgwrsio pan fyddant angen cyngor (o broblemau perthynas i waith cartref!), ysgwydd i wylo arni neu rywun i wrando arnynt. Yn tyfu i fyny fel person ifanc gydag iselder, hoffwn petai sefydliad fel hyn wedi bodoli i’m helpu i drwy’r cyfnodau anodd. Mae’n debyg bod yna, ond roedd gen i ormod o gywilydd i ymestyn allan atynt.

Wrth dyfu roedd y stigma o gwmpas iechyd meddwl yn fy mygu, ac oherwydd hynny roedd llawer o ffrindiau a theulu yn anymwybodol o’r pethau roeddwn i’n mynd drwyddo. Yn hŷn bellach, dwi’n rhannu fy stori yn aml i #diweddstigma, ond gyda phobl hyfryd fel hyn allan yna, nid oes rhaid i bobl ifanc deimlo’n unig. Dim ond galwad neu neges testun sydd ei angen.

Edrychwch ar dudalen Intagram Meic i gael dolen i’r wefan #gafaelynymeic