Preifatrwydd

Preifatrwydd

Cyffredinol

Darperir a rheolir y safle hwn gan MEIC Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan MEIC yn unig yn www.MEICcymru.org
Mae MEIC yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Gwarchod Data 1998.

Gwybodaeth a all adnabod pobl yn bersonol

    Bydd MEIC yn casglu gwybodaeth bersonol pan ydych yn ei darparu i ni yn benodol ac yn wybyddus yn unig. Enghreifftiau o wybodaeth bersonol yw:
  • a) eich enw
  • b) eich cyfeiriad
  • c) eich rhif ffôn
  • d) eich cyfeiriad e-bost

Gwybodaeth na all adnabod pobl yn bersonol

Cesglir gwybodaeth gryno yn awtomatig gan ein system e.e nifer yr ymwelwyr i’r safle. Er mwyn gwneud hyn efallai y bydd angen i ni anfon cwcis i’ch PC. Defnyddir y wybodaeth hon i fonitro’r defnydd o’r wefan ac ni fydd yn cynnwys gwybodaeth a all eich adnabod fel unigolyn.

Safleoedd trydydd parti

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolennau i wefannau eraill. Fe’ch hysbysir na all MEIC gael ei ddal yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill. Anogwn bob ymwelydd i fod yn ymwybodol o a darllen datganiadau preifatrwydd pob gwefan sy’n casglu gwybodaeth sy’n gallu adnabod pobl yn bersonol.

Newidiadau i ddatganiadau preifatrwydd

Gall MEIC newid y datganiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Fe’ch cynghorir i ddarllen y datganiad hwn bob tro fel eich bod yn fodlon gyda’r amodau preifatrwydd o dan y rhai yr ydych yn darparu eich gwybodaeth bersonol i MEIC.

Cwcis

Ffeil testun fechan yw cwci ar borwr a disg galed y defnyddiwr sy’n adnabod porwr y defnyddiwr yn unigryw. Ceir dau fath o cwcis: cwcis parhaol a chwcis sesiwn. Mae cwcis sesiwn yn rhai dros dro ac yn cael eu dileu pan fo’r porwr yn mynd allan. Mae cwcis parhaol yn aros ar ddisg galed y defnyddiwr hyd nes bo’r defnyddwyr yn eu dileu neu hyd nes eu bod yn dirwyn i ben.

Os dymunwch rwystro cwcis gwefan MEIC, cyfeiriwch at Help ar eich porwr gwe.

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google. Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis”, sy’n ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur, i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a’i storio gan Google ar serfwyr. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i bwrpas gwerthuso eich defnydd o’r wefan, llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan a darparu gwasanaethau eraill yn ymwneud â gweithgaredd y wefan a defnydd y rhyngrwyd.

Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti lle mae’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y setiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a gyflwynwyd uchod.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer eich bywyd

am ddim / cyfrinachol / i chi / 0-25

Cuddiwch eich traciau. Cadwch yn ddiogel ar-lein. Darganfyddwch fwy