Hygyrchedd
Mae MEIC yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio pa bynnag borwr yr ydych yn ei ddefnyddio a ph’run ai oes gennych anableddau ai peidio.
Mae cynllun y safle yn rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg ac mae’n gydnaws â meddalwedd poblogaidd i ddarllen sgrin.
Caiff hygyrchedd gwefan MEIC (www.MEICcymru.org) ei lywio gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) ac mae’n gweithio gydag awduron cynnwys, datblygwyr a mudiadau anableddau i fodloni’r safon AA lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Mae cynnal safle hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio drwy’r amser i gynnig profiad cyfeillgar i’r defnyddiwr. Lle na ellir bodloni’r safonau uchaf o hygyrchedd bydd MEIC Cymru yn anelu at ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch pan wneir cais am hynny.




Gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer eich bywyd
am ddim / cyfrinachol / i chi / 0-25
Cuddiwch eich traciau. Cadwch yn ddiogel ar-lein. Darganfyddwch fwy