Cuddiwch eich traciau

Cuddiwch eich traciau

Dileu eich hanes rhyngrwyd

Pan ydych yn ymweld â gwefannau gan ddefnyddio porwr gwe fel Internet Explorer, mae eich cyfrifiadur yn storio cyfeiriad y wefan mewn ffolder. Gellir gweld y wybodaeth hon am gyfeiriadau gan bobl eraill a all weld eich bod wedi ymweld â safleoedd fel MEIC.

Porwr gwe yw’r meddalwedd a ddefnyddiwch i syrffio drwy’r rhyngrwyd ac mae dileu’r hanes yn dibynnu ar ba borwr gwe yr ydych yn ei ddefnyddio. Edrychwch ar y llun isod i nodi pa borwr yr ydych yn ei ddefnyddio a chliciwch arno am gyfarwyddiadau ynglŷn â chlirio’r porwr.

icon_ie icon_ie icon_ie icon_ie icon_ie

Dileu eich hanes rhyngrwyd yn Internet Explorer 8

  1. Ger brig llaw dde y sgrin chwiliwch am y gair ‘Safety’ a chliciwch arno
  2. O’r ddewislen a ollyngir i lawr, cliciwch ar ‘Delete Browsing History’ a bydd ffenestr yn ymddangos
  3. Gofalwch fod tic yn y blychau ger ‘Temporary Internet Files’, ‘Cookies’ a ‘History’
  4. Cliciwch ar ‘Delete’
  5. Caewch Internet Explorer drwy glicio ar y coch yn y gornel dde uchaf

Dileu eich hanes rhyngrwyd yn Firefox 3.5

  1. Cliciwch ar ‘Tools’ o’r ddewislen a ollyngir i lawr, cliciwch ar ‘Clear Recent History’ a bydd ffenestr yn ymddangos
  2. O’r blwch a ollyngir i lawr ‘Time range to clear’ dewiswch y cyfnod o amser y dymunwch ei ddileu. Os ydych yn ansicr dewiswch ‘Everything’
  3. Gofalwch fod tic yn y blychau ger ‘Browsing and Download History, ‘Form and Search History’, ‘Cookies’ a ‘Cache’
  4. Yna cliciwch ar y botwm ‘Clear Now’
  5. Caewch Firefox drwy glicio ar yr x yn y gornel llaw dde uchaf

Dileu eich hanes rhyngrwyd yn Safari 4

  1. Cliciwch ar y darlun ger y gornel llaw dde uchaf
  2. O’r ddewislen a ollyngir i lawr, cliciwch ar ‘Reset Safari’ a bydd ffenestr yn ymddangos
  3. Gofalwch fod ticiau yn y blychau ger ‘Clear history’, ‘Empty the cache’ a ‘Remove all cookies’
  4. Cliciwch ar y ‘Reset button’
  5. Caewch Safari drwy glicio ar yr x yn y gornel llaw dde uchaf

Dileu eich hanes rhyngrwyd yn Chrome 4

  1. Cliciwch ar ddarlun y Sbaner ger y gornel llaw dde uchaf a bydd dewislen a ollyngir i lawr yn ymddangos
  2. Cliciwch ar ‘History’ a bydd tab hanes yn ymddangos
  3. Chwiliwch am ddiwrnod y dymunwch ei glirio a chliciwch ar ‘Delete history for this day’
  4. Bydd ffenestr yn ymddangos yn gofyn a ydych chi’n siŵr eich bod am ddileu’r tudalennau, cliciwch ar y botwm ‘OK’
  5. Caewch Chrome drwy glicio ar yr x yn y gornel llaw dde uchaf

Dileu eich hanes rhyngrwyd yn Opera 10

  1. Cliciwch ar y ddewislen a ollyngir i lawr ‘Tools’
  2. Cliciwch ar ‘Delete Private Data’ a bydd ffenestr yn ymddangos
  3. Cliciwch ar y saeth ger ‘Detailed options’ a fydd yn gwneud y ffenestr yn fwy
  4. Gofalwch fod y ticiau yn y blychau ger ‘Delete all temporary cookies’, ‘Delete all cookies’, ‘Delete entire cache’ a ‘Clear history of visited pages’
  5. Cliciwch ar y botwm ‘Delete’
  6. Caewch Opera drwy glicio ar yr x yn y gornel llaw dde uchaf

Gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer eich bywyd

am ddim / cyfrinachol / i chi / 0-25

Cuddiwch eich traciau. Cadwch yn ddiogel ar-lein. Darganfyddwch fwy