Amdanon Meic

Angen gwybodaeth? Angen cyngor? Hoffi pe bai gennych gefnogaeth?
Cysylltwch â MEIC

Mae MEIC yn wasanaeth llinell gymorth newydd i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

O ddarganfod beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal leol i helpu i ymdrin â sefyllfa anodd, bydd MEIC yn gwrando pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Fe roddwn wybodaeth ddibynadwy i chi, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth y mae arnoch ei hangen i wneud newid.

Cysylltwch â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg – cewch chi ddewis! Rydym ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â ni ar y ffôn, ebost, testun SMS a negeseuon ebrwydd. Mae MEIC yn gyfrinachol, yn ddi-enw, am ddim ac i chi.

MEIC – gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’ch bywyd.

Ffôn: 080880 23456
Testun SMS: 84001
IM/sgwrsio ar y we: www.MEICcymru.org

Gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer eich bywyd

am ddim / cyfrinachol / i chi / 0-25

Cuddiwch eich traciau. Cadwch yn ddiogel ar-lein. Darganfyddwch fwy